top of page

Polisi Preifatrwydd 

Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox Cyf yn parchu eich preifatrwydd a'ch hawliau fel unigolyn. Byddwn ond yn anfon deunydd marchnata uniongyrchol atoch, sydd o ‘ddiddordeb cyfreithlon’, ac sydd, yn ein barn ni, yn berthnasol i chi yn rhinwedd eich swydd ac i’ch busnes. Dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data.
​

1. SUT FYDDWN NI’N CASGLU EICH DATA PERSONOL?

  • O'n ffurflenni gwe pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer ein digwyddiadau neu'n tanysgrifio i gylchlythyrau. 

  • O gyfweliadau ffôn a gynhaliwn gyda chi neu gynrychiolwyr eich cwmni.

  • Gan gyflenwyr data trydydd parti. Rydym ni’n cyflawni diwydrwydd dyladwy trylwyr i sicrhau bod ein cyflenwyr yn casglu ac yn rhannu data’n gyfreithlon. 

  • O wybodaeth sydd yn y parth cyhoeddus, er enghraifft ar wefan neu gofrestr gyhoeddus.

​

2. PA DDATA PERSONOL ALLWN NI EI DDAL?

Fyddwn ni ond yn prosesu’r lleiafswm o ddata personol sydd ei angen ar gyfer cyflawni ein buddiant cyfreithlon. Bydd hyn fel arfer yn gyfyngedig i'ch enw, teitl swydd a chyfeiriad e-bost eich busnes arferol.

​​

​

3. EIN HASESIAD DIDDORDEB CYFREITHIOL

Yn unol â chanllawiau’r ICO, rydym wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) ac Asesiad o Ddiddordeb Cyfreithlon (LIA). Ar ôl ystyried y math o ddata personol yr ydym yn ei brosesu a’r effaith bosibl y gallai ei gasglu a’i ddefnyddio ei gael, rydym wedi dod i’r casgliad mai bach iawn yw’r risg o effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Rydym hefyd wedi dod i’r casgliad bod prosesu eich gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon er ein budd cyfreithlon.

 

4. SUT FYDDWN NI’N PROSESU A RHANNU EICH DATA?   

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi ynghylch digwyddiadau y credwn eu bod yn berthnasol i chi yn rhinwedd eich swydd a’ch busnes, er enghraifft: drwy wahoddiad e-bost; ffôn; cylchlythyr. Pan fyddwch yn cofrestru i fynychu un o'n digwyddiadau, efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda'n cleientiaid ar gyfer cynnal eu hymgyrchoedd marchnata uniongyrchol cyfreithlon eu hunain. Dim ond pan fyddwch wedi cydsynio i wneud hynny wrth gofrestru y byddwn yn darparu eich data personol. Byddwn bob amser yn ymdrechu i sicrhau, trwy ein cyswllt rhannu data â thrydydd partïon, bod eich data personol bob amser yn cael ei brosesu’n gyfreithlon. Mae’n bosibl y caiff eich data ei ddatgelu i weithwyr Grŵp Cyrchfannau Wildfox Cyf, ac i broseswyr data a ddewiswyd yn ofalus, megis cwmni cyflawni post, ond dim ond o dan delerau cytundeb ysgrifenedig ar wahân. Efallai y bydd angen i ni hefyd ddatgelu gwybodaeth i awdurdodau neu weithwyr proffesiynol am resymau cyfreithiol neu yn achos anghydfod.

​​

5. MWY AM BETH FYDDWN NI’N DEFNYDDIO DATA PERSONOL AR EI GYFER 

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gedwir amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

  • Hyrwyddo digwyddiad perthnasol sydd ar ddod. 

  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol rhyngoch chi a ni.

 â€‹

6. RHEOLIADAU PREIFATRWYDD A CHYFATHREBU ELECTRONIG 

Mae’r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (PECR) yn cyd-fynd â’r GDPR. Maent yn rhoi hawliau preifatrwydd penodol i bobl mewn perthynas â chyfathrebiadau electronig. Byddwn bob amser yn nodi ein hunain yn glir fel anfonwr y cyfathrebiadau hyn ac yn darparu ffordd addas a syml i chi optio allan o gyfathrebiadau yn y dyfodol

​

7. AM BA MOR HIR FYDDWN NI’N DAL DATA PERSONOL?

Fyddwn ni ond yn cadw eich data cyhyd ag y credwn ei fod yn gywir ac yn gyfredol. h.y. cyn belled â’n bod yn credu ei fod yn gysylltiedig â busnes sydd wedi’i gynnwys yn ein proffil gwahoddiad. Rydym yn gwirio, cynnal, diweddaru a dileu data nad yw bellach yn gywir, yn rheolaidd

​

8. BLE FYDDWN NI’N STORIO DATA PERSONOL?

Ble bynnag y bo modd, byddwn ni’n storio eich data ar weinyddion diogel a leolir yn y DU neu o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Fodd bynnag, mewn rhai achosion, fel yn achos Google Cloud Storage a Wix Servers, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Pan fo hyn yn wir, byddwn yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod data’n cael ei storio’n ddiogel ac yn unol â’r rheoliadau diogelu data perthnasol

​

9. PROFFILIO DATA PERSONOL

Nid ydym ni’n defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer proffilio data na gwneud penderfyniadau wedi’u hawtomeiddio. 

​

10. DIWEDDARU EIN POLISI PREIFATRWYDD

Adolygir ein Polisi Preifatrwydd bob rhyw 12 mis neu’n gynt os oes angen cadw’n gyfredol ag unrhyw newidiadau mewn casglu data ac unrhyw newidiadau technolegol. Diweddarwyd y ddogfen hon ddiwethaf ar 8 Medi 2022.

​

11. EICH HAWLIAU FEL UNIGOLYN 

Mae'n bwysig eich bod chi’n deall eich hawliau fel unigolyn; 


Hawl i Ddileu. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol a byddwn yn gwneud hynny o fewn 30 diwrnod, ond fel arfer yn llawer cynt. Er mwyn osgoi’r posibilrwydd o ail-ychwanegu eich data personol yn y dyfodol, byddwn yn cadw eich cyfeiriad e-bost (os yw ar gael) yn ein prif ffeil atal. Gallwch ofyn i ni ychwanegu eich data personol yn ôl ar ein rhestr wahoddiadau unrhyw bryd. 


Hawl i ofyn am gywiriad. Os penderfynwch fod y data personol sydd gennym amdanoch yn anghywir mae gennych hawl i ofyn am gywiriad. Byddwn yn ystyried y cais ac yn cywiro unrhyw wallau a ganfyddir. Os oes gennym resymau i gredu nad oes gwall wedi digwydd, mae’n bosibl y byddwn yn cadw’r wybodaeth fel yr oedd yn flaenorol. Cewch wybod am y canlyniad dros y ffôn, dros e-bost neu drwy'r post.


Cais Mynediad i Wybodaeth. Ar unrhyw adeg, mae gennych hawl i gyflwyno Cais Mynediad i Wybodaeth a byddwn yn ymateb o fewn 30 diwrnod ond fel arfer yn llawer cynt. Ni fyddwn yn codi ffi am unrhyw un o’r ceisiadau uchod oni bai bod y cais yn ‘amlwg yn ddi-sail neu’n ormodol’. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i ddal data personol yn ôl os byddai ei ddatgelu’n ‘effeithio’n andwyol ar hawliau a rhyddid pobl eraill’.


Yr hawl i gael eich hysbysu. Mae gennych hawl i wybod sut y caiff eich data ei gasglu a'i ddefnyddio. Dangosir hyn yn y polisi preifatrwydd hwn ond gallwch hefyd gyflwyno cais Mynediad i Wybodaeth.


Yr hawl i gyfyngu ar brosesu. Mae gennych hawl i ofyn am gael cyfyngu neu atal eich gwybodaeth bersonol. Yn achos ein busnes ni, ni fydd byth angen i chi wneud hynny yn rhesymol, oherwydd gallwn ddileu neu gyflenwi'r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gyflym

 

Yr hawl i gludadwyedd data. Mae gennych hawl i dderbyn a chael mynediad i ddata mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin, ac sy'n ddarllenadwy gan beiriant.


Hawl i wrthwynebu. Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu ar sail diddordeb cyfreithlon neu ar gyfer ein marchnata uniongyrchol. Gallwch wrthwynebu trwy ddefnyddio'r ffurflen isod gan ofyn am ddileu eich data.

​

12. COFRESTRU CWYN

Os teimlwch ein bod ni ar unrhyw adeg yn ymddwyn yn annheg neu’n diystyru eich hawliau fel unigolyn, cysylltwch â ni a gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. 

​

13. CYSYLLTU Â GRÅ´P CYRCHFANNAU WILDFOX  CYF

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y bydd eich data’n cael ei brosesu neu’i rannu, gan gynnwys actifadu eich hawl i ddiddymu, cysylltwch â ni drwy gwblhau’r ffurflen ar waelod y dudalen hon, neu drwy’r post at: 

​

Grŵp Cyrchfannau Wildfox Cyfyngedig
TÅ· Kimberley
Rhodfa TÅ· Glas
Llanisien
Caerdydd 
CF14 5DX


neu
info@wildfoxresorts.com 

​

14. CWCIS 

Ffeil fach yw cwci, fel arfer yn cynnwys llythrennau a rhifau, a gaiff ei lawrlwytho i ddyfais pan fydd y defnyddiwr yn defnyddio neu’n ymweld â gwefannau penodol. Mae cwcis yn galluogi gwefan i adnabod dyfais defnyddiwr. Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i roi gwell profiad defnyddiwr i chi. NID YDYM NI’N DEFNYDDIO CWCIS I ANFON HYSBYSEBU TRYDYDD PARTI ATOCH. Dim ond ar gyfer eich sesiwn porwr cyfredol y mae mwyafrif y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon yn parhau i fod yn weithredol, felly nid ydynt yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur yn barhaol. Os byddai'n well gennych beidio â defnyddio cwcis gallwch eu hatal trwy newid y gosodiadau yn eich porwr gwe, serch hynny, gall blocio cwcis gael effaith negyddol sylweddol ar eich profiad pori gwe. Mae pob porwr yn amrywio o ran sut rydych chi'n gwneud hyn, fel arfer trwy'r opsiynau preifatrwydd yn y ddewislen gosodiadau neu ddewisiadau.

​

15. YMWADIAD

Gobeithio y cewch ein gwefan yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth i chi. Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth amrywiol am weithgareddau Grŵp Cyrchfannau Wildfox Cyfyngedig. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys yn gywir ac yn gyfredol, ni wneir unrhyw gynrychiolaeth na gwarant, naill ai'n glir nac yn oblygedig. Nid yw F yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu hawliad sy’n deillio o ddefnyddio’r wybodaeth hon, sut bynnag y’i hachoswyd

​

16. FEIRYSAU

Mae ein systemau'n cael eu monitro gan feddalwedd gwirio feirysau, fodd bynnag, ni all y cwmni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am feirysau neu elfennau dinistriol eraill a gynhwysir yn y tudalennau hyn neu sydd ynghlwm wrthynt. Eich cyfrifoldeb chi yw sganio a gwirio'r holl ddeunyddiau cyn eu lawrlwytho o'r wefan hon

​

17. DOLENNI

Mae dilyn dolenni i wefannau eraill yn digwydd yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun. Nid yw Grŵp Cyrchfannau Wildfox Cyf yn derbyn unrhyw atebolrwydd am ddefnyddio'r ddolen na chynnwys y wefan berthnasol. 

​

18. HAWLFRAINT

Mae hawlfraint ar bob tudalen o'r wefan hon. Darperir mynediad i'w defnyddio dros dro ac at ddiben defnyddio'r tudalennau hyn. Gwaherddir storio, dosbarthu, neu gopïo'r wybodaeth yn y wefan yn barhaol.

Data Request Form

Ffurflen gofyn am ddata 

Diolch am gyflwyno ein ffurflen gais data.

bottom of page