top of page

Cwestiynau Cyson

Fel chi, rydyn ni’n chwilfrydig, a dydyn ni byth yn stopio gofyn cwestiynau.

I helpu, rydyn ni wedi crynhoi rhestr o gwestiynau a holir yn gyson.
Methu dod o hyd i ateb? Gawn ni sgwrsio.

Beth sy’n digwydd yn 2024?

Mae ein gwaith gyda chwe ysgol leol yn parhau gyda 2B Enterprising wrth i ni ysbrydoli ieuenctid am y dyfodol a helpu i adeiladu sgiliau i’w helpu i fod yn rhan o weithlu’r dyfodol, Rydyn ni’n falch fod Coleg Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i ddenu cyllid i gefnogi datblygu sgiliau yng Nghwm Afan ar gyfer oedolion a phlant hÅ·n i’w galluogi i ddatblygu a pharatoi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth i’r dyfodol. Ar lefel fwy strategol, ein blaenoriaeth yw denu partner o’r sector preifat i weithio gyda ni ar gamau nesaf ein gwaith o ddylunio a darparu’r gyrchfan, a pharhau i weithio gyda’r Cyngor i roi’r cynlluniau amgylcheddol yn eu lle am fod yn rhaid i’r rhain fod yn barod cyn y gall unrhyw waith sylweddol ddechrau. Mae ein tîm hefyd yn archwilio sut y gallwn ni gyflymu darparu’r prosiect, ac yn ceisio gweld sut y gallwn ni adfer ac ailblannu rhannau eang o’r safle â choed newydd. 

​

Pryd fydd y gwaith adeiladu’n dechrau?

Ers rhoi caniatâd cynllunio unfrydol i ni ym mis Tachwedd 2022, mae’r tîm cyflenwi wedi bod yn gweithio i gyflawni’r materion a gadwyd yn ôl sy’n weddill. Ymysg y gwaith a wnaed i baratoi’r safle mae ymchwiliadau tir, gwelliannau amgylcheddol a rheoli cynefinoedd, ers 2022, ac fe’u cyflawnir gam wrth gam yn unol â chyfrifoldebau cynllunio sy’n parhau, yn unol â deddfwriaeth gynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd  Port Talbot.

​

Pa mor fawr yw’r safle?

Mae’r prif safle datblygu’n 318 erw, gydag 86 erw pellach wedi’u neilltuo ar gyfer gwella amgylcheddol a bioamrywiaeth. Bydd gwelliannau amgylcheddol ychwanegol oddi ar y safle’n cael eu darparu ar safle cyfagos Dyffryn.


Pryd fydd e’n agor?

Fel un o’r prosiectau adfywio mwyaf yng Nghymru, rydyn ni’n wynebu heriau a rhwystrau newydd yn barhaus, ond rydyn ni’n parhau i fod wedi ymrwymo o ddod o hyd i atebion er mwyn  galluogi cyflawni’r gwaith. Penderfynir ar y dyddiad agor swyddogol yn ôl pryd y gellir dechrau adeiladu, ac mae hyn yn ddibynnol ar gael cytundeb ar rai materion cynllunio a chwblhau pecyn ariannu’r gyrchfan.  

​​

Mae sibrydion am gyrchfan yng Nghwm Afan wedi bod yn cylchdroi ers blynyddoedd, ai prosiect newydd yw hwn?

Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox yn gwmni newydd; rydyn ni’n cyflenwi’r prosiect gyda thîm arwain a gweithredu newydd. Mae gan y sefydliad brofiad helaeth ym maes adfywio ac mae wedi ymrwymo i drawsnewid y safle a chyflawni deilliannau cadarnhaol er budd cymunedau a busnesau.

 

Oherwydd cymhlethdod daearyddol y safle a gwaith dehongli’r prosiect, rydym wedi penodi ymgynghorwyr arbenigol sy’n ychwanegu gwerth i’r prosiect ac yn sicrhau llwybr at gyflawni.

​

Sut fyddwch chi’n sicrhau fod y cwm yn cael ei warchod a’i gadw?

Drwy gydol y broses gynllunio, rydyn ni wedi gweithio gydag arbenigwyr a’r cyngor lleol i sefydlu prosesau a mesurau ar gyfer gwarchod a gwella Cwm Afan. Yn enwedig, rydyn ni wedi cytuno ar ymrwymiadau ecoleg helaeth sy’n cynnwys creu cynefinoedd newydd a thrawsleoli ymlusgiaid ar safle cyfagos i wneud iawn, a’r cyfan dan oruchwyliaeth Clerc Gwaith Ecolegol.

 

Wrth i ni symud i’r cam o weithredu, un flaenoriaeth allweddol fydd adfer y dirwedd a phlannu miloedd o goed, gan greu amgylchedd gwyllt a adfywiwyd ar gyfer gwesteion a’r gymuned, yn ogystal â gwella draeniad dŵr a bioamrywiaeth ar y safle. Bydd y tîm yn creu llwybrau cerdded a seiclo newydd i gefnogi llesiant, a byddant yn sicrhau fod gwaddol cloddio am lo ar y safle’n cael ei gyfosod o gwmpas diogelwch y gymuned.

 

Sut fydd y gymuned leol yn elwa?

Mae’n hanfodol i ni fod y gymuned leol a’r rhanbarth yn gallu elwa’n uniongyrchol o’r prosiect hwn. Mae gennym sawl polisi sy’n arwain ein hegwyddorion cyffredinol, gan gynnwys ein Polisi Amgylcheddol a Llywodraethu Cymdeithasol; Strategaeth yr Iaith Gymraeg; Cytundeb Economaidd; a’n Siarteri Busnes a Sgiliau a Strategaeth Gaffael sydd wrthi’n dod i’r amlwg.

​

Mae busnesau a chymunedau De Cymru eisoes yn rhan uniongyrchol, o ddarparu llety i ddiogelwch, isadeiledd y safle, i yrru cerbydau a gweithio ar y safle.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran ddogfennau.

​

Pa waith ydych chi’n ei wneud yn y gymuned?

  • Partneru gyda’r cwmni lleol, 2B Enterprising, i ariannu adnoddau addysgol ar gyfer ysgolion cynradd lleol yng Nghwm Afan. Rydyn ni’n cefnogi gwersi a gweithgareddau gyda disgyblion, gyda chefnogaeth tîm Bumbles of Honeywood i ysbrydoli myfyrwyr ifanc am gyfleoedd newydd.

  • Gweithio gyda Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot i sefydlu Academi Wildfox i greu llwybrau gyrfa ar gyfer cyflogaeth hirdymor adeg agor y cyrchfan ar draws meysydd: gwerthu, marchnata, digidol, gwasanaethau i westeion, digwyddiadau a lletygarwch, cogyddion a staff bariau, arweinwyr gweithgareddau ac antur, achubwyr bywyd, rheoli ac adfer tirweddau, ecoleg a chynaliadwyedd, masnachol, cyllid, logisteg, harddwch a llawer iawn mwy…

  • Cydweithio gyda thîm Diogelwch Cymunedol Castell-nedd Port Talbot er mwyn gweithio gyda phartneriaid golau glas i sicrhau diogelwch parhaus preswylwyr lleol.

  • Mynychu digwyddiadau lleol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot a phartneriaid i arddangos ein cynnydd a’r darpar gyfleoedd i gymunedau a chyflenwyr lleol.

  • Datblygu cytundeb cydweithio er mwyn datblygu partneriaethau gyda rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo Cymru a Chwm Afan.

  • Cysylltu ag awdurdodau cyfagos ynghylch cyfleoedd ledled Castell-nedd Port Talbot ac i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr.

​

Ble gall busnesau lleol gofrestru’u diddordeb?

Rydym wedi creu ffurflen benodol i’w defnyddio gan fusnesau lleol i gofrestru’u diddordeb yng Nghyrchfan Wildfox Cwm Afan.

Cliciwch yma i gael mynediad i ffurflen ‘Busnes Lleol’ Wildfox.

 

Sut ydw i’n derbyn diweddariadau o ran cynnydd?

Rydyn ni’n rhannu diweddariadau’n aml drwy gyfrwng ein cyfryngau cymdeithasol, ac mae gennym gylchlythyr a fydd yn rhoi diweddariadau am y prosiect yn eich mewnflwch!

​

Gallwch glicio yma i danysgrifio i gylchlythyr Cyrchfannau Wildfox.  

 

Pam fod y llwybrau cerdded a marchogaeth ar gau?

Cafodd Ffyrdd Tramwy Cyhoeddus o fewn i ffin y safle eu cau dros dro er diogelwch defnyddwyr a’n gweithlu ni. Gwneir y cau hyn yn unol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd  Port Talbot, dan Adran 14(1) y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd). Gellir gweld rhestr lawn a map o’r llwybrau a gaewyd yma. Deallwn y rhwystredigaethau mae hyn yn ei achosi, ond gwnaed hyn er budd gorau diogelwch y cyhoedd.   

 

Ble alla i wneud cais am swyddi?

Bydd cyfleoedd am swyddi’n datblygu wrth i’r safle symud ymlaen drwy gamau adeiladu, gweithredu a thu hwnt adeg agor y cyrchfan. Bydd cyflogaeth uniongyrchol drwy gyfrwng Wildfox yn cael ei hybu ar ein gwefan pan fyddant ar gael, a chânt eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw ddiweddariadau cyfathrebu eraill hefyd.

​

Bydd ein contractwyr yn chwilio am staff ar bob cam, ac rydym wedi canfod fod gweithio ar sail argymhellion uniongyrchol gan bobl yn ffordd ardderchog o gysylltu’r gymuned â swyddi. Mae ein hymgynghorwyr Keystone yn casglu a chadw rhestr o bobl sydd ar gael i weithio.

​

Yn y cyfamser, byddai diddordeb gyda ni mewn clywed oddi wrthych bob amser, felly mae croeso mawr i chi rannu eich CV gyda ni, ynghyd â nodyn yn awgrymu pa swyddi yr hoffech chi gael eich ystyried ar eu cyfer.

​

Methu â gweld ateb i’ch cwestiwn?

Cysylltwch â’r tîm.

bottom of page