top of page
sam-marx-2lHhPpblwFk-unsplash.jpg

Amdanom ni

Dysgwch ragor am Grŵp Cyrchfannau Wildfox a’r tîm y tu ôl i’r weledigaeth i greu cyfres o gyrchfannau antur a llesiant.  

Grŵp Cyrchfan Wildfox

Yn 2021, daeth ein Sylfaenwyr ynghyd i greu gweledigaeth o fod yn brif fusnes cyrchfannau antur a llesiant, gan amlygu’u hunain fel brand sy’n adnabyddus ledled y byd.

​

Sefydlu’r genhedlaeth nesaf o gyrchfannau – ailddiffinio twristiaeth antur, hamdden a gwell iechyd. Bydd Cyrchfannau Wildfox yn gyfystyr â lleoliadau dramatig sy’n cyfuno harddwch naturiol â dylunio a gweithredu sensitif.

Ein gwerthoedd

Pobl

Rydyn ni’n adeiladu cymuned o fewn cymuned.

Planed

Rydyn ni’n byw i’r eiliad ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Pleser

Profiad sy’n edrych, yn blasu ac yn teimlo o ansawdd da.  

Mae gennym genhadaeth i greu cyrchfannau antur a llesiant o safon ryngwladol er mwyn rhoi’r gwyliau gorau a gawsant erioed i’n gwesteion.

​

Bydd technoleg yn ein galluogi i darfu ar gyfleoedd y farchnad, a’u datblygu, drwy gynnig gwell gwasanaeth, profiadau mwy deinamig, gan adael i ni wneud arbedion effeithlonrwydd ar draws y busnes.

​

Byddwn ni’n darparu ystod eang o gyfleusterau antur a llesiant, gyda gweithgareddau tywys, wedi’u hymgorffori ymysg llety o safon uchel, a’u trwytho â diwylliant, mewn amgylchedd diogel.

​

Bydd Cyrchfannau Wildfox yn cael eu geni a’u magu yng Nghymru, gan sefydlu pencadlys y grŵp yno ac agor Cyrchfan 1 yn Ne Cymru yn 2027. Bwriedir creu tair cyrchfan yn y DU.

Ein tîm

Dewch i adnabod y tîm y tu ôl i’r prosiect adfywio trawsnewidiol hwn.

Wildfox Resorts Martin Bellamy.png

Martin Bellamy

Prif Swyddog Gweithredol

Wildfox Resorts Benjaimin Lloyd.png

Ben Lloyd 

Cyfarwyddwr Straetegaeth y Grŵp

​

Wildfox Resorts Claire Pearce.png

Claire Pearce

Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu Economaidd

Wildfox Resorts -Peter Moore OBE.jpg

Peter Moore OBE

Cynghorwr i’r Bwrdd

Clywed gan y tîm

Wildfox Resorts Lord David Triesman.png

Arglwydd David Triesman

Cadeirydd

Bydd Cyrchfannau Wildfox yn frand gwirioneddol eithriadol a wnaed yng Nghymru, ac yn un o’r brandiau newydd mwyaf cyffrous yn y byd.
 

Bydd ein cyrchfannau’n cynnig antur a hwyl digymar i bob oedran, yn ogystal â chyfleusterau rhagorol mewn amgylchedd i ddwyn eich gwynt.

Tîm cyflenwi

bottom of page