Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox yn cadarnhau cadw gwasanaeth nineteen47 Ltd fel rhan o dîm darparu ehangach cyrchfan Cwm Afan.
Bu Cyfarwyddwr nineteen47, Jamie Pyper, ynghlwm â’r prosiect ers y cychwyn, gan sicrhau caniatâd cynllunio amlinellol ar ran Cyrchfannau Wildfox. Bydd Jamie’n cefnogi’r tîm cyflenwi wrth baratoi a chyflwyno ceisiadau Materion a Gadwyd yn Ôl a rhyddhad amodol.
Meddai’r Cyfarwyddwr yn nineteen47, Jamie Pyper: "Mae nineteen47 yn falch iawn o gael ein cadw gan Gyrchfannau Wildfox i gefnogi darparu’r prosiect hwn, a fydd yn cael argraff hynod fanteisiol ar yr ardal leol a’r rhanbarth yn ehangach. Mae’n beth cyffrous gweld y prosiect yn esblygu o gysyniad ac yn tyfu i fod yn gynllun y gellir ei gyflawni.”
-----
Am Gyrchfannau Wildfox
Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.
Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.
Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.
P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.
About nineteen47
Mae nineteen47 yn rhan hyfyw o’r sector letygarwch a hamdden, gan weithio i rai o frandiau mwyaf y DU. I ddysgu mwy, ewch www.nineteen47.co.uk
Comments