top of page

Keystone Environmental Limited yn rhan o dîm cyflawni safle Cwm Afan


Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox y cadarnhau penodi Keystone Environmental Limited fel rhan o dîm cyflenwi ehangach cyrchfan Cwm Afan. Cwm Afan yw’r cyntaf o dair cyrchfan antur newydd yn y DU.

Mae Keystone Environmental Ltd yn gyfrifol am y gwaith cychwynnol o reoli safle, ac adeiladu’r compownd, creu a rheoli cynefinoedd a materion ecolegol.


Arweinir Keystone Environmental Ltd gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Joe Bradshaw, sy’n goruchwylio arweinwyr adrannol perthnasol o fewn adrannau Contractio ac Ymgynghori Keystone. Bydd Pennaeth Cynefinoedd Josh Willis, a Rob Frith, yr Ecolegydd Cyswllt, yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros drefnu a darparu gweithgareddau a leolir ar y safle.


Mae Josh wedi gweithio mewn contraction ecolegol ers dros 12 mlynedd, gan adeiladu yn ystod y cyfnod hwnnw gyfoeth o brofiad o ran creu a rheoli amryw o gynefinoedd. Mae’i allu digymar i reoli safleoedd heriol a chymhleth o ran logisteg wedi bod yn hanfodol, ar ôl penodi Keystone fel Contractiwr Blaenaf cyntaf y cynllun.


Mae gan Rob 15 mlynedd o brofiad mewn ymgynghori ecolegol, gydag arbenigedd arbennig mewn trawsleoli rhywogaethau ar raddfa fawr ac arolygu, lliniaru a monitro bioamrywiaeth.

Mae Cyrchfannau Wildfox wedi ymrwymo i gefnogi economi leol gref a chynaliadwy drwy ddatblygu cyfleoedd cadwyn gyflenwi.


Lleolir Keystone yng Nghaerdydd a De Swydd Gaerloyw, ac maen nhw wedi rhoi adnoddau mawr ar waith i ymgymryd â sawl math o waith hyd yn hyn. Mae’r dasg y’u penodwyd ar ei chyfer wedi gweld ystod eang iawn o offer a deunyddiau’n cael eu defnyddio ar y safle, gan ffynonellu cyflenwyr ac is-gontractwyr o ardal y safle a De Cymru ble bo’n bosib, yn unol â gyrwyr allweddol y cynllun i elwa’r gymuned a’r economi gyfagos. Mae sawl un o’r is-gontractwyr a ffynonellwyd yn lleol yn raddedigion prifysgol diweddar, sy’n elwa o swyddi newydd eu creu yn yr ardal, ac sy’n uwchsgilio drwy gyfrwng hyfforddiant wrth weithio, gan ddarparu troedle allweddol i mewn i’r sector ymgynghori.


Yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr yn Keystone Environmental Ltd, Joe Bradshaw Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn gweithio ar y prosiect hwn yng Nghwm Afan ar ran Cyrchfannau Wildfox, a bod yn rhan greiddiol o adfywio hanfodol sy’n parchu’r dirwedd a’r fioamrywiaeth unigryw a geir yn ucheldiroedd Cymru, gan greu gwaddol i’w fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol. Prin y bydd cyfle fel hyn yn amlygu’i hun er mwyn bod yn rhan o rywbeth mor hanesyddol ac ysbrydoledig â Chyrchfan Cwm Afan, a bu’n brofiad gwirioneddol unigryw i gydweithio gyda chleient sy’n dangos y fath angerdd a brwdfrydedd â thîm Wildfox.


----


About Wildfox Resorts

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.


Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.


Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.


P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi


Am Keystone Environmental Ltd

Mae Keystone yn arbenigwr ecolegol annibynnol sy’n gweithredu dull ymarferol, deallus ac arloesol o gynghori cleientiaid. Bydd ein Hymgynghorwyr Ecolegol a’n Rheolwr Cytundeb Cynefinoedd profiadol yn darparu atebion ecolegol cyflawn, gan alluogi ein cleientiaid i ddarparu’u prosiectau a chyflawni’u nodau ar yr un pryd â chyflawni’u hamcanion amgylcheddol – mae pawb yn ennill.


Drwy weithio mewn perthynas agos, gynhyrchiol, rydyn ni’n rhannu ein hangerdd dros arfer amgylcheddol da, gan lwyddo i gyflawni gwell deilliannau a safonau uwch yn barhaus.

bottom of page