top of page

Dros hanner y bobl sy’n cael gwyliau gartref eisiau gwyliau antur

Adroddiad newydd yn codi’r clawr ar flaenoriaethau pobl ar wyliau

Mae pobl o’r DU sy’n cael gwyliau gartref yn edrych yn gynyddol am wyliau o natur anturus, gyda thros 60% o’r cyhoedd yn ffafrio teithiau o’r fath, yn ôl adroddiad newydd gan Gyrchfannau Wildfox, a leolir yng Nghaerdydd. Mae gwyliau hollgynhwysfawr yn parhau i fod yn boblogaidd iawn gyda 44% yn chwilio am wyliau sy’n cynnig pris penodol am y cyfle i fwynhau popeth. Gwyliau sba yw’r math sydd yn y trydydd lle mwyaf deniadol, gyda 34% o ymatebwyr eisiau dianc ac ymlacio.


Nod yr adroddiad, Agweddau’r Cyhoedd at y Farchnad Gwyliau Gartref yn y DU, oedd ceisio deall sut mae COVID-19 a’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar sut y bydd pobl yn cael gwyliau, a pham fod pobl yn aros gartref i gael gwyliau.


Gyda’r cynnydd mewn costau’n dod yn ffactor allweddol wrth benderfynu ble i fynd, gofynnwyd i ymatebwyr sut maen nhw’n ystyried eu dewisiadau. Wrth gynllunio i ble i fynd, y brif ystyriaeth i ymatebwyr oedd ymlacio a llesiant (74%), ac yn dynn ar sodlau hynny roedd darganfod rhywle newydd (68%) a gweld nodweddion eiconig, gan gynnwys tirwedd (64%).


Mae’r canfyddiadau’n dangos fod galw ar i farchnad wyliau’r DU gynnig seibiau anturus, heb golli golwg ar orffwys a llesiant.


Yn ôl Ben Lloyd, Cyfarwyddwr Strategaeth y Grŵp yng Nghyrchfannau Wildfox: “Dengys y data ein bod ni’n dod yn genedl o anturwyr yn gynyddol, Mae tuedd gadarnhaol o ran diddordebau ac ymgysylltiad ymatebwyr nid yn unig gyda gweithgareddau awyr agored, ond gyda gweithgareddau antur a yrrir gan adrenalin ar draws pob oedran, i ddynion a menywod.


“Er bod gweithgareddau awyr agored yn bwysig, mae’r cysyniad yn glir – mae defnyddwyr eisiau cael cyrchfannau gwyliau a arweinir gan brofiadau. Tynnodd dros hanner yr ymatebwyr sylw at y ffaith mai’r elfen bwysicaf o wyliau gartref oedd cael profi cymaint â phosib o fewn yr amser oedd ar gael.”


Er i COVID-19 gadw llawer ohonom ar wahân, canfu’r adroddiad fod pobl wedi gwneud ymdrech ymatebol i ailgysylltu drwy wyliau. Dywedodd 65% o ymatebwyr fod treulio amser gyda theulu, ffrindiau a phartneriaid yn ffactor bwysig wrth ddewis gwyliau.


Ar ôl dwy flynedd o gyfarfodydd rhithiol, ymddengys nad ydym ni’n hollol barod i adael ein teclynnau gartref (dim ond 32% o ymatebwyr ddywedodd fod datgysylltu’n bwysig iddyn nhw).


Meddai Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu Economaidd yng Nghyrchfannau Wildfox: “Cafodd y farchnad wyliau’i throi ben i waered dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn troi’u sylw at gyrchfannau yn y DU wrth ddewis eu gwyliau. Drwy wneud hyn, maen nhw’n gosod anturio ym myd natur ac ymlacio yn fwyfwy wrth wraidd eu dewisiadau.


“O’u hystyried gyda’i gilydd, mae ein hymchwil yn awgrymu fod galw cynyddol am wyliau gartref yn y DU sy’n cynnig profiadau unigryw a chofiadwy. Mae gweithio ar y cyd i elwa o’r cyfleoedd hyn – a darparu gwasanaeth o safon uchel sy’n driw i’r rhanbarth lleol – wrth wraidd Cyrchfannau Wildfox.”


Samplodd Cyrchfannau Wildfox 1,300 o ddefnyddwyr cyffredinol yn y DU oedd yn 18 oed a hŷn (sampl cenedlaethol cynrychioliadol) gyda sampl uwch o 506 yng Nghymru, sy’n gyfwerth â 1,806 o ymatebwyr i gyd.


Darllenwch yr adroddiad yn llawn.



bottom of page