top of page

Cyrchfannau Wildfox yn penodi Penseiri Powell Dobson Architects


Wildfox Resorts appoints Powell Dobson Architects

Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox wedi penodi Powell Dobson Architects fel rhan o dîm cyflenwi cyrchfan Cwm Afan.


Gan weithio o’u stiwdio yng Nghaerdydd, bydd Powell Dobson Architects yn gyfrifol am uwch-gynllun y gyrchfan, a chynlluniau manwl pob un o’r adeiladau gweithgaredd allweddol a llety’r gyrchfan yn gyffredinol.


Arweinir tîm Powell Dobson gan y Rheolwr Bartner Ann-Marie Smale, a’r Cyfarwyddwr Dylunio Mike Thomas, gyda chefnogaeth Dave Rossington fel Pensaer y Prosiect.


Mae’r tîm yn rhan o bractis pensaernïol annibynnol mwyaf Cymru, gyda thros 75 aelod o staff wedi ymrwymo i ddylunio a darparu adeiladau a lleoedd eithriadol sy’n ysbrydoliaeth ac yn bleser byw a gweithio ynddyn nhw,


Nod Powell Dobson yw cynllunio adeiladau sy’n ysbrydoli’u defnyddwyr, sy’n darparu hunaniaeth gref, ac sy’n ymateb i’w cyd-destun, ac sy’n cofleidio’n llwyr eu hymrwymiad i greu cynllun cynaliadwy yn eu hamgylchedd lleol a chenedlaethol.


Dywedodd y Rheolwr Bartner Ann-Marie Smale wrth ymateb i’w penodiad i’r prosiect: “Rydyn ni wedi cyffroi i gael y cyfle i fod yn rhan o beth allai fod, heb os, yn un o’r prosiectau adfywio mwyaf yng Nghymru. Bydd pensaernïaeth y gyrchfan antur newydd yng Nghwm Afan yn cael ei gyrru gan ddaearyddiaeth, tirlun a chyd-destun ehangach y safle, gan greu cyrchfan a fydd, drwy’i ffurf a’i deunyddiau’n perthyn i’w lleoliad hardd yn y cwm.




About Wildfox Resorts

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.


Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.


Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.


P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.



Am benseiri Powell Dobson Architects

Sefydlwyd cwmni pensaernïaeth Powell Dobson Architects yn 1966 a dathlodd ei hanner-can-mlwyddiant yn 2016. Mae’r cwmni’n cyflogi dros 75 o staff ar draws stiwdios yng Nghaerdydd, Abertawe a Llundain. Yn ôl eu Datganiad Cenhadaeth – “Cynllunio ysbrydoledig, cyd-destunol a chynaliadwy” – sy’n adlewyrchu’u hethos i gynllunio lleoedd sy’n ysbrydoli, sy’n creu hunaniaeth gyd-destunol gref ac sy’n cofleidio ymrwymiad llawn i gynaliadwyedd. .

bottom of page