top of page

Cyrchfan Wildfox yn croesawu Stantec UK i’r tîm cyflenwi

Updated: Nov 28, 2022


Wildfox Resorts welcomes Stantec UK to the delivery team

Mae Grŵp Cyrchfan Wildfox yn cadarnhau penodi Stantec UK Ltd fel rhan o’r tîm ehangach fydd yn cyflenwi cyrchfan Cwm Afan. Cwm Afan yw’r cyntaf o dair cyrchfan antur newydd yn y DU.


Bydd Stantec, gan weithio o Gaerdydd a Bryste, yn darparu gwybodaeth leol a chefnogaeth ranbarthol. Darperir profiad cenedlaethol uwch y mae galw amdano ar brosiect a maint mor fawr a chymhleth â hwn hefyd. Mae Stantec yn gyfrifol am wasanaethau Cynllunio, Trafnidiaeth, Amgylcheddol a gwaith peirianneg arbenigol. Mae Stantec Caerdydd hefyd yn darparu gwasanaethau cynllunio tirwedd gan weithio law yn llaw â’r penseiri i ddatblygu’r prif gynllun a chyngor economaidd, cyllid a chyflawni i sicrhau llwyddiant y buddsoddiad sylweddol hwn.


Arweinir tîm amlddisgyblaethol Stantec gan Jane Hirst, Cyfarwyddwr Cynllunio, gyda chefnogaeth staff allweddol a phenaethiaid adran gan gynnwys Sam Harper, Cyfarwyddwr Cynllunio, Martin Dix, Cyfarwyddwr Adeiladau, Scott Witchalls, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth ac Isadeiledd, Richard Smith, Uwch Gydymaith, Mark Roberts, Cyfarwyddwr Economeg, John Haxworth, Cyfarwyddwr Tirlunio a Jamie Glossop, Ecolegydd Cyswllt. Cânt eu cefnogi’n abl gan dîm amlddisgyblaethol o ymgynghorwyr arbenigol sydd wedi’u trwytho mewn cyflenwi prosiectau enfawr o natur drawsnewidiol, a gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.


Mae Stantec wedi ymrwymo i gefnogi economi leol gref a chynaliadwy, drwy ddatblygu cyfleoedd cadwyn gyflenwi. Gyda hyn yn flaenoriaeth, arweinir y tîm o swyddfa Caerdydd, gyda chynlluniau ar y gweill i gynyddu’r tîm yn lleol i adlewyrchu ymroddiad Stantec i Dde Cymru ac economi Cymru fel rhan allweddol o’i ymrwymiad i’w gleientiaid a’u prosiectau, Mae Stantec eisoes wedi datblygu perthynas ag ystod o sefydliadau addysgol gan gynnwys Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ac mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfleoedd i adeiladu ar hynny.


Yn ôl Jane Hirst, y Cyfarwyddwr Cynllunio: “Mae Stantec yn ffodus i fod yn rhan o rai prosiectau trawsnewidiol arwyddocaol, ac ni allai Wildfox – Cwm Afan fod yn well esiampl. Gan adeiladu ar weledigaeth Wildfox, rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o’r prosiect anhygoel hwn sy’n hyrwyddo’r amgylchedd naturiol ar yr un pryd â chael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr economi leol, ranbarthol a chenedlaethol, drwy ddathlu’r gorau am Gymru.

______


Am Gyrchfan Wildfox

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.


Bydd Cyrchfan Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.


Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.


P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.


Am Stantec

Mae Stantec yn gwmni ymgynghori rhyngwladol o’r safon uchaf, gan weithio gyda chleientiaid a chymunedau yn y DU ers sawl blwyddyn. Bu Stantec yn gyson ar reng flaen y gwaith o gynllunio, dylunio a darparu cynlluniau yn y DU. Mae gan y cwmni swyddfeydd ledled y Du gan gynnwys dwy yng Nghaerdydd, ac mae gan Stantec enw da iawn am waith gyda chleientiaid o’r sector cyhoeddus a phreifat ar ystod amrywiol iawn o brosiectau datblygu ac isadeiledd proffil uchel.


Addewid Stantec yw dylunio gan gadw’r gymuned mewn cof. Mae cyflawni hyn yn golygu defnyddio’u hangerdd a’u harbenigedd cyfun i helpu i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf a mwyaf brys y byd drwy ddarparu dyfodol cynaliadwy i’n cymunedau. Maen nhw wedi ymrwymo i daclo newid hinsawdd a sicrhau gwytnwch, ac ar yr un pryd ddarparu manteision i’r cymunedau ble maen nhw’n gweithio. Maen nhw’n hyrwyddo mentrau sy’n cefnogi byd mwy cynaliadwy. Gallwch weld eu hastudiaethau achos, drwy ymweld â’u gwefan ar https://www.stantec.com/uk

bottom of page