top of page

Cyrchfan Wildfox yn croesawu Copper Consultancy i’r tîm cyflenwi


Mae Grŵp Cyrchfan Wildfox wedi penodi’r asiantaeth gyfathrebu arbenigol Copper Consultancy. Bydd Copper yn darparu datblygiad brand, strategaeth gyfathrebu a chefnogaeth i ymgysylltu â rhanddeiliaid i gefnogi tîm cyflawni cyrchfan Cwm Afan.


Gan weithio o Fryste, derbyniodd Copper y dasg o ddarparu’r lleoliad brand ar gyfer Grŵp Cyrchfannau Wildfox a’n cyrchfan gyntaf yng Nghwm Afan. Mae tîm Copper Consultancy wedi creu brand unigryw sy’n adlewyrchu treftadaeth y prosiect ynghanol Cymru.


Law yn llaw â brandio, bydd Copper yn gyfrifol am gyfathrebu, ac am ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen drwy’r broses gynllunio.


Arweinir tîm Copper gan y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, Ronan Cloud, gyda chefnogaeth agos yr Uwch Reolwr Cyfrifon, Joseph Price-Moore, a’r Uwch Weithredwr Cyfrifon, Sophie Pearce.


Mae’r tîm profiadol hwn yn dod â dyfnder ac ehangder profiad ar draws prosiectau mwyaf y DU yn y sector amgylchedd adeiledig gan gynnwys parc thema The London Resort, The Wave ym Mryste, a chwaraeodd ran hanfodol wrth ddatblygu Cronfa’r Trefi, dan arweiniad Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau. Mae Copper Consultancy yn cynnal record gref o ran cyflawni prosiectau yng Nghymru, gan gynnwys Parkway Caerdydd, RWE a HyNet North West.


Yn ôl y Cyfarwyddwr Ronan Cloud: “Rydyn ni’n falch o fod yn rhan yn y fath brosiect uchelgeisiol sy’n rhoi cymuned, cynaliadwyedd ac adfywio mewn lle mor ganolog. Mae ein staff creadigol mewnol eisoes wedi darparu brand newydd ffres a chyffrous sy’n rhoi gwir ymdeimlad o werthoedd Cyrchfan Wildfox – pobl, planed a phleser. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu dull cyfathrebu ac ymgysylltu drws agored sy’n adeiladu perthynas wirioneddol ar draws partneriaid, cadwyn gyflenwi, buddsoddwyr ac aelodau cymunedol Cyrchfannau Wildfox.”



----


Am GyrchfanWildfox

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.


Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.


Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.


P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.


Am Copper Consultancy

Mae Copper Consultancy yn asiantaeth gyfathrebu sy’n cynnig gwasanaeth llawn ac sy’n dod â thros 25 mlynedd o arbenigedd mewn isadeiledd a’r amgylchedd adeiledig i ddeall heriau, cynulleidfaoedd a nodau, gan helpu i arwain y ffordd ar gyfer rhai o’r prosiectau mwyaf uchelgeisiol i newid cymdeithas ledled y DU, a darparu strategaethau cyfathrebu sy’n creu argraff.


Mae gan Copper adrannau ar draws Datblygu Economaidd, Isadeiledd, Adeiladu a Chyfathrebu Strategol, ac mae gan y cwmni dîm sydd ar ei brifiant o dros 100 cydweithiwr â’u harbenigedd ymhob maes o faterion cyhoeddus, ymgyrchu, perthynas â’r wasg, cynnwys, creadigol a mwy.


Mae’u portffolio’n cynnwys prosiectau sy’n amrywio ar draws heolydd, rheilffyrdd, teithio awyr, ynni, logisteg a gwastraff ledled y DU, ar gyfer cleientiaid sy’n cynnwys adrannau llywodraeth, awdurdodau cyfun, datblygwyr preifat a’r rhan fwyaf o 20 prif gontractwr y DU. Gallwch weld eu hastudiaethau achos drwy ymweld â’u gwefan ar https://copperconsultancy.com/.



bottom of page