top of page

Cyrchfan Wildfox yn creu partneriaeth gyda 2B Enterprising i gefnogi ysgolion lleol



Mae Cyrchfan Wildfox yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth gyda 2B Enterprising i gefnogi pedair ysgol gynradd yn ardal SA13 Cwm Afan ac ysgol cyfwng Cymraeg leol ychwanegol, dros gyfnod o dair blynedd.


Bydd ysgolion yn derbyn cyfoeth o adnoddau a fydd yn dysgu plant am fenter a sgiliau bywyd allweddol eraill. Bydd Cyrchfannau Wildfox yn darparu’r adnoddau i ysgolion lleol, ac yn helpu i ddarparu gwersi am entrepreneuriaeth, lleisiant, amrywiaeth a chynhwysiant.


Sefydlodd 2B Enterprising adnoddau addysgu'r Bumbles of Honeywood, sy’n helpu plant ifanc i ddysgu am fenter, entrepreuriaeth a sgiliau bywyd hanfodol drwy ddilyn teulu gwenyn y Bumbles o Honeywood wrth iddyn nhw daclo ystod o heriau gyda’i gilydd. Mae addysg menter yn rhan o Gwricwlwm Cymru newydd ar gyfer ysgolion cynradd, ac mae’r adnoddau hyn yn darparu ateb ‘oddi ar y silff’ i athrawon allu ymdrin â’r maes pwnc hwn.


Yn ôl Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu Economaidd yng Nghyrchfannau Wildfox: “Rydym ni wrth ein bodd o allu gweithio gyda thîm Bumbles of Honeywood yng nghymuned Cwm Afan i weithredu ei hymrwymiad i greu gwerth cymdeithasol – gan weithio gyda phobl ifanc i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol ac i greu posibiliadau newydd.”


Meddai Jayne Brewer, Prif Weithredwr 2B Enterprising: “Mae’n wych gweld cwmni fel Cyrchfannau Wildfox yn ymrwymo i gefnogi’i chymuned leol fel hyn. Drwy bartneru â phum ysgol, nid yn unig mae’r tîm yng Nghyrchfannau Wildfox yn darparu adnoddau Bumbles of Honeywood, ond byddan nhw hefyd yn cael cyfle i adeiladu perthynas â’r ysgolion ac i ysbrydoli pobl ifanc a fyddai’n agored i ddilyn gyrfa mewn twristiaeth. Mae’n rhagorol eu gweld nhw’n cynnig eu cefnogaeth am gyfnod o dair blynedd, am y bydd hyn o fantais enfawr i’r ysgolion, a bydd hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw greu argraff barhaus yn y cyfnod sy’n arwain at agor y Gyrchfan.


Gall ysgolion cynradd wneud cais i dderbyn adnoddau Bumbles of Honeywood a gallant gael mynediad iddynt drwy gael eu partneru gyda busnes a all hefyd ddod â mewnwelediad yn ei sgil o’u sefydliad nhw i mewn i’r ysgol i ddyrchafu’r profiad dysgu hyd yn oed yn fwy.


I gael mwy o wybodaeth ewch i www.2benterprising.co.uk


bottom of page