top of page

Arbenigwyr lletygarwch yn ymuno â thîm Cyrchfan Wildfox


Mae Grŵp Cyrchfan Wildfox yn cadarnhau penodi HotelMakers fel rhan o dîm cyflenwi ehangach cyrchfan Cwm Afan. Cwm Afan yw’r cyntaf o dair cyrchfan antur newydd yn y DU.


Chris Ward a James Hayward fydd yn gyfrifol am gynghori tîm gweithredol Wildfox, a chefnogi’r ymgynghorwyr arbenigol â mewnwelediad o ran lletygarwch wrth iddynt ddatblygu’r gyrchfan.


Mae Chris yn weithiwr proffesiynol profiadol iawn ac uchel ei barch yn y diwydiant lletygarwch, gyda record glodwiw o ddatblygu a darparu brandiau lletygarwch arobryn a llwyddiannus dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.



Chris Ward

Cyn sefydlu Hotelmakers, gweithiodd Chris mewn swyddi uwch yn rhai o westai moethus annibynnol ac ystadau preifat gorau’r byd. Yn ystod ei yrfa, mae Chris wedi bod yn llwyddiannus wrth lansio sawl busnes hamdden sy’n arwain y farchnad ac yn meddu ar lwyddiant masnachol, a dyrannodd gyfalaf ymhell dros £100m yn llwyddiannus wrth wneud hynny.

Mae gan James 12 mlynedd o brofiad ymgynghori a enillwyd ar draws meysydd lletygarwch, hamdden a digwyddiadau gan ddarparu prosiectau proffil uchel strategol a chreadigol i Ennismore, Intercontinental Hotel Group, Gemau Olympaidd Llundain a Lucozade Sport, ynghyd â llu o frandiau ffordd-o-fyw moethus ac ystadau preifat. Mae’n angerddol dros fanteision yr awyr agored, ac mae’n arweinydd ymgyrchoedd awyr agored profiadol, gan arwain sawl taith hyfforddi anturus yn ystod ei yrfa wreiddiol fel swyddog yn y fyddin.


James Haywood


Dywedodd y Partner yn HotelMakers, James Haywood: “Mae HotelMakers wrth ein bodd o fod yn cynghori tîm Wildfox ar brosiect mor ddewr ac mor llawn gweledigaeth. Credwn yn gryf y gall busnesau lletygarwch a ystyriwyd yn dda ac a arweinir gan nod fod yn rym er gwell; gan fod o fantais i’r amgylchedd, darparu twf economaidd a chyflogaeth, yn un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous ac amrywiol.”


----


Am Gyrchfan Wildfox

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.

Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.


Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.


P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.

bottom of page