top of page

Ymunwch â’n digwyddiad treftadaeth, Lleisiau’r Cwm, ym mis Hydref



Ym mis Awst, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a dechrau ein llif gwaith Treftadaeth newydd. I roi hwb cychwynnol i’r prosiect, bu i ni fyfyrio ar ystyr Cwm Afan i’r bobl sy’n galw’r llecyn hwn yn gartref drwy gyfansoddi darn o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan eiriau rhywun a fu’n byw yma gydol ei oes.


Mae’r gerdd, Calon Cartref, yn adrodd stori Mark, a fagwyd ynghanol hanes diwydiannol dwfn Afan, ac a adawodd gartref yn un ar bymtheg oed i ddod o hyd i waith yn y diwydiant pysgota, ac yna olew, cyn dychwelyd yn ôl i weithio yn ffatri gwneud injans Ford. Aeth Mark ymlaen i gwrdd â’i gymar, 37 mlynedd yn ôl bellach, ac mae’n hel atgofion am y cyfoeth o antur sydd ar garreg ei ddrws, ac yntau’n un o’r beicwyr mynydd gwreiddiol i weld rhagoriaethau’r cwm.


Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, ei obaith ef yw y bydd y gyrchfan yn cynnig oes newydd o lawenydd a chwerthin i’r gymuned, ac ar yr un pryd yn dod â theuluoedd a ffrindiau adref yn ôl.


Cliciwch yma i ddarllen cerdd 'Calon Cartref'.


 

Wrth i ni gyfansoddi’r cerddi, roedd ein cyfieithydd Cymraeg, Bethan Mair, ynghanol bwrlwm yr Eisteddfod. Mae teulu mam Bethan yn hanu o Bont-rhyd-y-fen, un o bentrefi hanesyddol Cymreiciaf a mwyaf diwylliannol Cwm Afan. Aeth Bethan i Foduan, gan gwrdd ag awduron ac artistiaid, a bu’n brysur hefyd yn adolygu’r nofelau a enillodd brif wobrau’r Ŵyl yn fyw ar S4C.















 

Wrth i ni edrych i’r dyfodol, rydyn ni’n cynnal digwyddiad treftadaeth, Lleisiau’r Cwm, ar 10 Hydref yng Nghanolfan Gymunedol Croeserw rhwng 2 a 4pm. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i ailgysylltu a dathlu’r ardal leol.


Ein gobaith yw dal atgofion gan y cymunedau, yn benodol y rheiny oedd yn rhan o ddiwydiannau hanesyddol glo a choedwigaeth, ac annog preswylwyr, grwpiau cymunedol, ac arbenigwyr hanesyddol, i ddod â lluniau ac artiffactau i’w rhannu. Darperir te a danteithion prynhawn.


Rhennir rhagor o fanylion y digwyddiad maes o law. Os hoffech gymryd rhan yn y digwyddiad, anfonwch e-bost atom at info@wildfoxresorts.com neu cysylltwch drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol.



bottom of page