Roedd Tîm Cyrchfan Wildfox wrth eu bodd i groesawu Stephen Kinnock AS i’r safle cyntaf mewn cyfnod newydd o gyrchfannau antur a llesiant ym Mhrydain. Mae Wildfox, sydd â’i bencadlys yng Nghymru, a’r gyrchfan arbennig gyntaf yng Nghwm Afan, yn cynrychioli cyfle trawsnewidiol i greu cyflogaeth newydd mewn sector economaidd sydd ar ei phrifiant, cyfle fydd yn galluogi’r cymoedd i edrych y tu hwnt i’r hen ddiwydiannau traddodiadol a fu, fel cloddio am lo, ac ymateb i heriau newydd wrth i sectorau eraill, fel dur, ailstrwythuro.
Mae datblygu twristiaeth yn ail natur i dirwedd ddramatig Cymru ac yn gyfle enfawr i ddatblygu’r canolbwynt ar lesiant, ac integreiddio hynny â’r datblygiad economaidd o ran sector a gweithlu.
Tynnodd Ben Lloyd, Cyfarwyddwr Grŵp – Strategaeth Fasnachol sy’n gyfrifol am Wildfox, sylw at y twf sylweddol mewn twristiaeth chwaraeon, gydag ymchwil Twristiaeth y Cenhedloedd Unedig yn rhagargoeli cynnydd o 17.5% o 2023 i 2030. Rhagwelir y bydd y duedd hon yn dylanwadu’n fawr ar deithio o fewn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Disgwylir i’r farchnad lletygarwch chwaraeon fod yn werth £16 biliwn erbyn 2027, gyda thwristiaeth chwaraeon yn cyfrannu 10% o wariant twristiaeth ledled y byd.
Dywedodd Claire Pearce Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Chynllunio: “Mae Cyrchfan Wildfox yn enghraifft o’r farchnad ariannol ac eiddo tirol yn ymateb i faint y farchnad, gan ganolbwyntio ar greu gwasanaethau ‘gorau yn eu dosbarth’ ar gyfer pobl sy’n frwd dros ffitrwydd a chwaraeon i fwynhau hyfforddi, cyfleusterau a therapïau llesiant yn ogystal â darparu cyfleusterau ar lefel ‘mynediad’ i sicrhau lefelau uchel o gyfranogi mewn ffordd o fyw llesol. Bydd ein ffocws penodol ar wella’r cyfleusterau – rhagorol yn barod – ym maes beicio mynydd a dringo, a chyfosod hyn â llety a sba eithriadol, gan greu cyrchfan dwristiaeth a chanolfan newydd yng Nghwm Afan.”
Meddai Stephen Kinnock: “Mae’n bwysig fod Cymru’n chwim gan ymateb i amgylchiadau economaidd symudol, gan alluogi sectorau newydd i dyfu, a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd all ddal eu gafael ar ran o’r gwerth hwnnw, a chysylltu cyfleoedd â chymunedau. Mae creu cyrchfan antur benodol yng Nghwm Afan i wella’r economi ymwelwyr yn ymateb economaidd strategol sy’n hwyluso gwell amrywiaeth economaidd a chynaliadwy, a chynnig hyfforddiant a swyddi newydd i unigolion a theuluoedd yn ardal Castell-nedd Port Talbot”.
Ychwanegodd Gemma Charnock o Grŵp Colegau NPTC: “Bydd y Coleg yn gweithio gyda myfyrwyr a’r gymuned yn ystod 2024 i ymgysylltu a chynnig cyfleoedd ar lefel mynediad i ysbrydoli ac annog unigolion i gymryd cam ymlaen ar hyd llwybr cyflogaeth newydd i’r dyfodol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r gwaith mae tîm Wildfox eisoes yn ei wneud mewn ysgolion lleol.”
Am Cyrchfan Wildfox
Mewn lleoliad 318 erw o gwmpas pentref Croeserw, mae Cyrchfan Wildfox Cwm Afan yn addo creu mil o swyddi adeiladu a mil o swyddi gweithredol pellach. Bydd yn sbardun ar gyfer ymestyn cyflogaeth a thwristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r ardaloedd cyfagos, gan flaenoriaethu iechyd a llesiant preswylwyr a’r gweithlu.
Bydd y gyrchfan, a dderbyniodd gymeradwyaeth ffurfiol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Ionawr 2022 ar ôl llofnodi cytundebau cyfreithiol, yn cynnwys gwesty 130 ystafell, gyda fflatiau a 570 llety caban, gan gynnig dihangfa lesol yn llawn adrenalin i bobl o bob oedran a hoffai gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau.
I’r rheiny sy’n dymuno cael profiad mwy ymlaciol, neu gyfle i adfer y batri, bydd y gyrchfan yn cynnig sba hollol gyfoes a rhaglen lesiant helaeth a fydd yn cynnwys gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau pop-yp.
Comments