Roedden ni wrth ein bodd o weld cymaint o bobl wedi dod ynghyd ar gyfer te treftadaeth Lleisiau’r Cwm, a gynhaliwyd ar 10 Hydref yng Nghanolfan Gymunedol Croeserw – diolch i bawb wnaeth fynychu a’n cefnogi ar y dydd.
Hwn oedd ein digwyddiad cymunedol cyntaf, ac yn ein barn ni doedd dim ffordd well o nodi’r achlysur na thrwy ddathlu hanes y Cwm, y rhai fu’n byw yma ar hyd eu hoes, a’r diwylliant diwydiannol.
Cafodd tîm Cyrchfannau Wildfox ac aelodau o’r grŵp cyflenwi ehangach (gan gynnwys cynrychiolwyr o’n timau cynllunio, pensaernïaeth, adeiladu ac amgylchedd) gyfle i gwrdd, gwrando a dysgu am eich hoff atgofion, gweld eich lluniau a chlywed am eich dymuniadau dros y Cwm. Cafodd y tîm eu cyffwrdd gan eich parodrwydd i rannu hyn oll gyda ni, ac fe’n gadawyd ag ymdeimlad enfawr o falchder ac ysbrydoliaeth.
Rhaid estyn diolch arbennig i’r Maesteg Gleemen, fu’n canu, gwenu a rhannu’u cariad dros y Gymraeg a threftadaeth leol hefyd. Cawsom ni’r fraint, hyd yn oed o groesawu’r Fari Lwyd, a fydd, gobeithio, yn dod â lwc dda ar gyfer y flwyddyn i ddod!
Bu modd hefyd i rannu allbwn menter ddiweddar dan arweiniad ein hymgynghorwyr cynllunio Stantec. Mae Jane Hirst, Cyfarwyddwr Cynllunio, wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Cymer Afan i ddigido albymau lluniau hanesyddol a diogelu’r lluniau gwreiddiol, oedd dros gant oed. Gwelodd sawl un a fynychodd ar y dydd lin o’u hanwyliaid am y tro cyntaf erioed – gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu rhyw gymaint at gadw’r atgofion yn fyw, a hoffem ddiolch i Ysgol Cymer Afan am rannu’r lluniau hyn gyda ni.
Meddai Claire Pearce: “Mae Cyrchfannau Wildfox wedi ymrwymo i greu gwerth cymdeithasol go iawn, a gofynnwn i’n hymgynghorwyr a’n tîm cyflenwi i gydweithio gyda ni i gyflawni hynny. Alla i achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn bersonol i Jane a thîm Stantec am fuddsoddi o’u hamser a’u hadnoddau i weithio gyda’r ysgol er mwyn galluogi i’r adnoddau hyn fod yn fwy hygyrch a gwydn ar gyfer eu rhannu â chenedlaethau’r dyfodol.”
Yn fwyaf pwysig, rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle i’r gymuned rannu unrhyw ofidiau a dymuniadau ar gyfer cyflawni’r gyrchfan. Rydyn ni wedi cofnodi’r trafodaethau a’r cyfraniadau a ddeilliodd o’r byrddau trafod, ac wedi’u hadolygu bellach a byddwn ni’n myfyrio arnynt i’w troi’n ddeilliannau wrth symud i’r dyfodol.
Yn ogystal â chofnodi rhestr hir o nodweddion a lleoedd hanesyddol sy’n agos at galon y gymuned, rydym wedi crynhoi themâu allweddol a ddeilliodd o drafodaethau’r dydd isod.
Nodiadau cefnogi
Cyflogaeth a datblygu gweithlu – sicrhau dull cadarnhaol i gadw gweithlu, gan gynnwys uwchsgilio cymunedau lleol, ymgysylltu â phlant ysgol a chynnig cyfleoedd i fusnesau lleol elwa.
Adfer tirwedd – cynllunio’r Gyrchfan yn sensitif i eistedd yn ddedwydd o fewn yr amgylchedd naturiol ac adfer coed i’r cwm.
Cysylltedd – gwella mynediad i lwybrau cerdded a beicio, a chefnogi gweithgareddau sy’n llesol i iechyd corfforol a meddyliol, yn benodol gyda phobl iau.
Pensaernïaeth – defnyddio deunyddiau naturiol fel llechi o Gymru a choed a ffynonellwyd yn lleol, cynnwys y Gymraeg yn y Gyrchfan a dathlu doniau sy’n cwmpasu popeth o artistiaid lleol i fwydydd lleol.
Ysbryd y gymuned – peri fod diweddariadau am y gyrchfan yn gyson a hawdd dod o hyd iddyn nhw e.e. taflenni a llythyron yn cael eu dosbarthu, uchelgais i gael mwy o gynulliadau a digwyddiadau i gwrdd â’r tîm a chefnogi cyfleusterau lleol.
Cydnabyddiaethau
Rydyn ni hefyd yn cydnabod y gall fod gennych ofidiau a chwestiynau am y Gyrchfan, a gobeithio fod y digwyddiad hwn wedi bod yn ffordd ddefnyddiol o gael atebion iddynt yn uniongyrchol gan y tîm.
Ffyrdd Tramwy Cyhoeddus – ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y cau dros dro, a hoffem ailbwysleisio fod y rhain ar gau er budd pennaf diogelu preswylwyr ac ymwelwyr tra bo’r safle’n barth adeiladu gweithredol. Mae’n parhau i fod yn cael ei oruchwylio’n rheolaidd gan ein tîm amgylcheddol, gyda mwy o weithgarwch i ailddechrau yn y gwanwyn 2024. Cymerwyd y mesurau cau dros dro yn unol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot dan Adran 14(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Gellir gweld map o’r llwybrau a effeithir yma.
Trafnidiaeth – rydyn ni’n gwerthfawrogi fod gofidiau am oblygiadau trafnidiaeth ar rwydwaith yr heolydd lleol i’r dyfodol. Rydyn ni wedi gweithio gydag arbenigwyr trafnidiaeth fel rhan o’r broses gynllunio i adolygu hyn oll yn fanwl, ac o ganlyniad, mae gennym ganiatâd i gael dwy fynedfa i’r Gyrchfan – un ar gyfer ymwelwyr, a’r ail ar gyfer staff a gweithredu. Byddwn ni’n annog ymwelwyr yn gryf i ddefnyddio dulliau amgen o deithio gan gynnwys rheilffyrdd, ac rydyn ni’n archwilio sut allem ni beri fod hyn yn opsiwn deniadol ar gyfer cwsmeriaid y dyfodol.
Effaith ar y gymuned – fe drafodon ni ofidiau gan gynnwys taflu sbwriel, niwed cyhoeddus, effaith ar olygfeydd a rheoli gwastraff. Hoffem ailategu ein bod ni’n ymwybodol o’r ffactorau hyn ac yn eu hystyried wrth i ni wneud pob un penderfyniad. Mae’r tîm uwchgynllunio a dylunio’n rhoi ystyriaeth ofalus iawn i bob un o’r pynciau hyn. Mae gan y gymuned a’r cyngor rôl i’w chwarae wrth sicrhau fod yr ardal leol y tu fas i’r gyrchfan yn cael ei chynnal a’i chadw’n ddiogel hefyd, er mwyn creu amgylchedd croesawgar i ymwelwyr. Os hoffech siarad ag aelod o’r tîm am unrhyw bwnc newydd neu bwnc a godwyd eisoes, anfonwch e-bost at info@wildfoxresorts.com.
Mae ein cynlluniau ar gyfer treftadaeth i’r dyfodol yn cynnwys deall y galw am gynnal prosiect treftadaeth ffurfiol. Mae’n debygol y byddai hyn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â sefydliadau arbenigol, a byddai’n galw am gael caniatâd i gyflwyno hanes llafar, arteffactau a lluniau. Byddai hyn yn galluogi i bethau gael eu gosod mewn archif allanol sy’n bodoli’n barod.
Ni fyddai gan Wildfox hawl perchennog dros yr archif, ond rydym ni’n hapus i gefnogi cyfrannu unrhyw bethau i mewn iddi, er mwyn diogelu hanes y Cwm ac unrhyw eiddo o bwys. Rydym wedi derbyn sawl mynegiant o ddiddordeb eisoes, ond os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni ar bob cyfri.
I ddathlu allbwn y digwyddiad hwn, byddwn ni’n cyhoeddi fideo sy’n cynnwys clipiau o’r diwrnod, cyfweliadau ag aelodau o Amgueddfa Glowyr De Cymru a sylwadau gan Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
Comments