Mae Grŵp Cyrchfan Wildfox yn cadarnhau penodi Blake Morgan LLP fel rhan o dîm cyflawni ehangach cyrchfan Cwm Afan.
Bydd James Gundy MRICS, cyfarwyddwr yn swyddfa Caerdydd, yn gyfrifol am Wasanaethau Rheoli Prosiectau i gynorthwyo â’r gwaith rhaglennu strategol, caffael, ac agweddau masnachol ehangach y datblygiad. Bydd James yn cael ei gynorthwyo gan Alex McCusker (Cyfarwyddwr Prosiect) a bydd yn gweithio’n agos gyda Joanna Rees (Partner) a fydd yn arwain elfen gwasanaethau cyfreithiol darpariaeth Blake Morgan.
Mae James yn Gyfarwyddwr a chyn arweinydd swyddfa mewn cwmni ymgynghori adeiladu byd-eang, ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn cyflenwi prosiectau fel Rheolwr Prosiect a Chostau yn y diwydiant adeiladu. Bu James yn rhan, yn bennaf, o gynllunio strategol a darparu prosiectau masnachol ond mae ganddo allu amrywiol sy’n ymwneud â sawl marchnad a sector.
Mae gan Alex McCusker, Cyfarwyddwr Prosiect, dros bymtheng mlynedd o brofiad o ddarparu prosiectau’n llwyddiannus yn y diwydiant adeiladu. Mae Alex yn cydnabod pwysigrwydd cynnal adolygiadau rhaglenni prosiect rheolaidd, rheoli risg, rheoli costau a systemau adrodd rheolaidd, i sicrhau fod pob aelod o’r prosiect yn cael gwybodaeth lawn am bopeth ar bob cam o’r gwaith.
Mae Jo wedi gweithio law yn llaw â datblygwyr, llywodraeth a thimau a chontractwyr y sector cyhoeddus, gan ddelio â phob agwedd ar brosiectau adeiladu, o dendrau ar gyfer prosiectau drwodd i’r cam adeiladu, problemau rheoli risg a datrys anghydfod drwy ADR, dyfarnu, cyfryngu, neu ymgyfreithio pan fo angen.
Mae Cyrchfan Wildfox wedi ymrwymo i gefnogi economi leol gref a chynaliadwy, drwy ddatblygu cyfleoedd cadwyn gyflenwi. Mae Blake Morgan yn cofleidio’r ethos hwn gyda’n dull o fynd i’r afael ag ymwneud â’r gadwyn gyflenwi a nodau gwerth cymdeithasol ehangach – gan weithio’n hyfyw y tu allan i’n hymgynghoriad proffesiynol i ddatblygu partneriaethau ar y cyd a rhwydweithio sy’n darparu gobeithion go iawn fydd o fudd i gymunedau lleol. Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a’r gymuned randdeiliaid ehangach i wneud y gorau o fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar draws holl rychwant a hyd ein comisiwn.
Meddai James Grundy MRICS, Cyfarwyddwr: "Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o brosiect sy’n wirioneddol drawsnewidiol, a fydd yn gyrru twf economaidd cynaliadwy, o fewn rhanbarth o Gymru, drwy ddarparu cyfleuster deinamig a fydd yn denu diddordeb o bob cwr o’r DU a thu hwnt. Mae gweithio gyda Chyrchfannau Wildfox a’r tîm proffesiynol a benodwyd yn creu cyfle prin i ddod â rhywbeth unigryw i Gymru.”
-------------
Am Gyrchfan Wildfox
Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.
Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.
Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.
P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.
Am Blake Morgan
Mae Blake Morgan LLP yn gwmni cyfreithwyr yn y DU sy’n darparu atebion cyfreithiol a deilwrwyd yn arbenigol ar gyfer unigolion, busnesau, cleientiaid nid-er-elw a’r llywodraeth. Gellir cael manylion llawn yma: https://www.blakemorgan.co.uk/
_
Comentarios