top of page

Ffilm dreftadaeth Lleisiau’r Cwm

Rydyn ni wrth ein bodd o gael rhannu ein ffilm dreftadaeth gyda chi ar ôl Lleisiau’r Cwm.

Roedd y digwyddiad yn ddathliad triw o gymuned a hanes, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i Wildfox, o ran sut y gallwn ni ymgorffori ysbryd y Cymoedd, ac ethos y dreftadaeth ddiwydiannol a’r ddolen ddramatig â’r dirwedd.


Rhaid i ni ddiolch o waelod calon i’n partneriaid a’n cefnogodd gyda’r digwyddiad, aelodau’r gymuned a rannodd eu straeon, ac Amgueddfa Glowyr De Cymru, sydd wedi gweithio’n ddiflino i warchod hanes torri glo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Roedd Lleisiau’r Cwm yn gyfle i ni ailgysylltu a dathlu Cwm Afan a’r cymunedau cyfagos. Dydyn ni ddim eisiau cuddio o gwbl rhag y ffaith fod safle Cyrchfannau Wildfox yn ganolog i hanes diwydiannol y Cymoedd, a’i fod wedi chwarae rhan eithriadol bwysig ym mywyd cymunedau fan hyn ers canrifoedd. Fe roddodd y digwyddiad gyfle i ni edrych yn ôl, myfyrio, ac yn fwyaf pwysig, ddysgu mwy am hanes unigryw a phersonol yr ardal.


“Cawsom ein cyffwrdd gan rai o’r straeon a’r gwrthrychau a rannwyd, ac fe’n gadawyd ag ymdeimlad enfawr o falchder a chyffro o blaid ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol Diolch unwaith eto i bawb a fynychodd ac a’n helpodd ar y daith – roedd hon yn ymdrech dîm a, gobeithio, yn ddechrau ar sawl achlysur tebyg i ddod.” – Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu yng Nghyrchfannau Wildfox.


Mae Lleisiau’r Cwm wedi adlewyrchu’r gwaith parhaus sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a lansiodd yn ddiweddar eu Strategaeth Dreftadaeth ddrafft, gyda’r nod o ‘Adfer, Adfywio, Ailbwrpasu’.


Siaradodd y Cynghorydd Steven Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn Amgueddfa Glowyr De Cymru “Byddwn ni’n parhau i weithio’n galed i hwyluso buddsoddi cadarnhaol i mewn i’r ardal, gan hyrwyddo ein treftadaeth a chysylltu a phontio ein cymunedau â chyfleoedd newydd. Mae pwyslais Cyrchfannau Wildfox ar antur a llesiant yn cyd-fynd yn naturiol gyda thirwedd ddramatig yr ardal ac asgwrn cefn cadarn y cymunedau glofaol mae pawb ohonom mor falch ohonynt.”


Nid yn unig roedd y digwyddiad yn llawn o straeon anhygoel, ond cafwyd cerddoriaeth anhygoel hefyd. O ganlyniad i’r twf sydyn yn y diwydiant glo, ffurfiwyd nifer fawr o gorau meibion ar hyd y wlad, fel ymgorfforiad o waith tîm a brawdgarwch y glowyr; ac ar ôl i’r diwydiant ddirywio, parhaodd y corau fel symbol o bwrpas a balchder i lawer.


Pleser fu cael cwmni’r Maesteg Gleemen, a berfformiodd ddetholiad o ganeuon oedd yn adlewyrchu’r cymoedd lleol. Amlygwyd y dolenni cymdeithasol, diwydiannol a diwylliannol sy’n bodoli rhwng y diwydiant glo a cherddoriaeth yng Nghymru, ac roedd yr ias a grëwyd gan eu perfformiad teimladwy wedi peri i lawer estyn am hances i sychu deigryn!


Dywedodd John Summers o’r Maesteg Gleemen “Roedd y Maesteg Gleemen yn falch o gefnogi digwyddiad treftadaeth Cyrchfannau Wildfox. Rydyn ni wedi bod yn cyd-ganu ers 65 mlynedd, ac mae’r côr yn chwarae rhan bwysig ym mywydau pob un ohonom, gan ddod â chymaint o lawenydd yn ei sgil. Fe ddewison ni ganu sawl cân oedd yn talu teyrnged i’n treftadaeth lofaol gan gynnwys ‘Working Man’, ac roedd y naws a grëwyd a’r sgyrsiau a gafwyd ar y dydd yn bleser cael bod yn rhan ohono.”


Cafodd y ffilm hon ei chreu a’i chynhyrchu gan y ffotograffydd lleol, David Griffin - https://davidgriffin.co.uk/


-END-


Comments


bottom of page