top of page

Earth Science Partnership yn arwain asesiadau daearegol fel rhan o’r tîm cyflenwi


Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox y cadarnhau penodi Earth Science Partnership Ltd fel rhan o dîm cyflenwi ehangach cyrchfan Cwm Afan.


Mae Earth Science Partnership Ltd (ESP), gan weithio o’u swyddfa yn Ffynnon Taf ger Caerdydd, yn gyfrifol am wneud asesiadau geodechnegol a geoamgylcheddol, materion sefydlogrwydd tir a gwaith archwilio tir.


Dan arweiniad Matthew Eynon (CGeol) a Giles Sommerwill (CGeol), mae tîm ESP yn cynnwys Mathew Elcock, Emma Kirk, Matthew Rowe-Smith a sawl daearegwr amgylcheddol a pheirianyddol uwch a graddedig siartredig sy’n llawn ymrwymiad ac angerdd.


Fel tîm, mae gennym brofiad sylweddol a phrofiad helaeth mewn ystod eang o geoamgylcheddau ledled y DU gan gynnwys tirlithriadau ôl-rewlifol mawr, tir hanesyddol ble bu cloddio am lo a thir llwyd sy’n waddol diwydiant yn Ne Cymru. Mae ein timau prosiect yn cynnwys offer, llafur a labordai o’r ardal leol yn bennaf.


Yn ôl Cyfarwyddwr ESP, Matthew Eynon: “Rydyn ni’n llawn cyffro o gael bod yn rhan o’r weledigaeth anhygoel hon ar gyfer blaenau Cwm Afan, a rhagwelwn y bydd ein gwybodaeth am amodau daearegol lleol a rhanbarthol yn cynorthwyo’r gwaith o wneud penderfyniadau a chynllunio i’r dyfodol. Mae yma gyfleoedd clir i’w creu ar gyfer cymunedau lleol fydd, ar yr un pryd, yn creu cyfleuster rhagorol i ymwelwyr o bob cwr o’r DU ei fwynhau.”


_____


About Wildfox Resorts

The Afan Valley resort will be the first of its kind in the UK and will be the single biggest investment in tourism, regeneration and landscape restoration in Wales, creating over 1,000 jobs in construction and in operation.


Wildfox Resorts Afan Valley will offer an adventure-filled escape for all ages who wish to take part in a range of activities including mountain biking, walking and cycling trails, canyoning, zip wires, climbing, bouldering, family adventure pool and electric off-road experiences to name a few. For those looking for a more relaxing stay or some well-deserved rest and recovery, the resort will offer a unique spa as well as a selection of restaurants and bars that champion regional produce.


Guests will be able to choose between a range of high-quality lodges or stay within the bespoke hotel and our Wildfox apartments, all set within the stunning Welsh valley with easy access to the motorway and rail networks.


Am Earth Science Partnership

Mae Earth Science Partnership yn gwmni ymgynghorol o beirianwyr, daearegwyr a gwyddonwyr amgylcheddol cymhwysol. Rydym ni’n arbenigwyr mewn deall prosesau tir a darparu atebion effeithiol ar gyfer ystod o gleientiaid masnachol a phreifat. Drwy ddealltwriaeth greiddiol o broblemau technegol ac arferion da, rydyn ni’n darparu arbedion. Daw hy law yn llaw â gwerthfawrogiad trylwyr o faterion a all effeithio ar randdeiliaid, rheoleiddwyr a’r amgylchedd, a all ddylanwadu ar gynllun. Ein nod yw darparu ein harbenigedd mewn modd a fydd yn ateb nodau eich prosiect orau, ac rydym wedi cyflawni gofynion ar gyfer achredu’n unol ag ystod o safonau ISO, sy’n ein galluogi i ragori ar ein rhwymedigaeth fel ymgynghorwr, cyflogwr a sefydliad abl sydd wedi ymrwymo i ddatblygu parhaus. Gellir gweld ystod o wybodaeth ac astudiaethau achos ar eu gwefan: : www.earthsciencepartnership.com

Commentaires


bottom of page