Mae Grŵp Salamanca’n falch o allu rhannu bod Castell-nedd Port Talbot wedi caniatâu caniatâd cynllunio ffurfiol i ddatblygiad Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan heddiw, ar ôl llofnodi’r cytundeb cyfreithiol gofynnol. Ar y cyd, byddwn ni’n parhau i sicrhau fod cynigion yn ymateb yn sensitif i’r amgylchedd ac yn cynhyrchu manteision cymdeithasol-economaidd i gymunedau lleol.
Yn ôl Martin Bellamy, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Grŵp Salamanca: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi derbyn penderfyniad cadarnhaol gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Dyma garreg filltir bwysig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r cyngor a rhanddeiliaid lleol i symud y prosiect yn ei flaen eleni. Byddwn eisiau gweithio ar fyrder i droi ein gweledigaeth yn wirionedd a chreu ased newydd ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Ted Latham: “Rwy’n falch iawn ein bod ni, ar ôl dod â’r cytundeb cyfreithiol i fwcwl yn llwyddiannus, wedi gallu rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i’r datblygiad hamdden hwn sydd â’r potensial i fod yn hollol drawsnewidiol. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i adfywio a thrawsnewid Cwm Afan ac rydyn ni’n llawn cyffro am botensial Cyrchfannau Wildfox i helpu i gyflawni hyn.”
Aeth y Prif Weithredwr, Karen Jones, ymhellach gan ddweud: “Mae aelodau’r tîm sy’n gefn i Gyrchfan Wildfox wedi dangos yn glir i mi fod ganddyn nhw angerdd ac ymrwymiad, nid yn unig o ran darparu cynllun sy’n meddu ar y potensial i yrru adferiad economaidd ac i fuddsoddi yn y dirwedd, ond hefyd i greu cenhedlaeth newydd o gyfleoedd hyfforddi a chreu swyddi i ysbrydoli ein cymuned a busnesau lleol.”
Comments