Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein tîm wedi gwneud cynnydd sylweddol i gyfeiriad dod â Chyrchfan Wildfox i fodolaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydyn ni wedi mireinio cynnig Wildfox a chynllunio cynllun a fydd, yn ein barn ni, yn llwyddiant masnachol ac yn dwyn ffyniant economaidd, ac yn bwysig iawn, swyddi yn ei sgil. Mae’r broses hon wedi cynnwys y cynllunio manwl a chyflawni’r materion a gadwyd yn ôl, pob un yn elfen hanfodol yr oedd angen eu cwblhau cyn y gallai gwaith ddechrau. Rydym hefyd wedi gwneud gwaith sylweddol i ddiogelu’r amgylchedd, er mwyn paratoi ar gyfer y datblygiad. Bellach, rydym mewn trafodaethau aeddfed â gweithredwr ar ran Wildfox, a theimlwn y bydd hyn yn arwain at ganlyniad cadarnhaol, gan ychwanegu at hyfywedd y prosiect. Law yn llaw â’r gwaith hwn y mae ein deialog parhaus â Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, y mae’u cefnogaeth mor hanfodol ar gyfer cyflawni’r prosiect. Mae Wildfox yn brosiect uchelgeisiol a chyffrous, ac yn brosiect sy’n meddu ar y gallu i ddarparu manteision go iawn ar gyfer y cymunedau lleol, rheiny sy’n gweithio yno, y rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan a phawb sy’n rhan o’i esblygiad. Byddwn ni’n rhannu diweddariadau a mwy o newyddion wrth i ni gael mwy o gynnydd i’w gyhoeddi.
Diweddariad Cyrchfan Wildfox Mehefin 2024
Updated: Jun 27
Comments