top of page

Cyrchfannau Wildfox yn penodi’r rheolwyr cost Turner & Townsend


Mae Cyrchfannau Wildfox wedi penodi Turner & Townsend i dîm cyflenwi cyrchfan Cwm Afan.


Gan weithio o’u swyddfa yng Nghaerdydd, mae tîm Turner & Townsend yn cynnwys Mark Rogers a Chris Lewis, ill dau’n aelodau hirdymor o’r busnes, gyda thros 30 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt.

Mae gan Mark a Chris gyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio ar brosiectau cyffrous ac unigryw ledled Cymru, y DU a’r farchnad ryngwladol. Mae Chris yn feiciwr mynydd brwd, a threuliodd sawl penwythnos gwlyb yn beicio mynydd yng Nghwm Afan, ac mae’n byw prin 15 milltir o’r safle.


Bydd Turner & Townsend yn gyfrifol am wasanaethau Rheoli Cost ar y prosiect. Bydd profiad y busnes yn y sector lletygarwch ac yn y marchnadoedd heriol a chystadleuol a wynebir gennym heddiw, yn dod â manteision i’r prosiect, ble mae’r min cystadleuol yn sefyll wrth sicrhau effeithlonrwydd, gwneud yn fawr o fasnached a rheoli uchelgais tîm Wildfox.


Ar ôl gweithio yn rhanbarth De Cymru am dros 30 mlynedd, mae Turner & Townsend wedi ymrwymo i gefnogi economi’r ardal ac i greu swyddi. Mae’r busnes yn cyflogi tîm o dros 30 o bobl yn y rhanbarth ar hyn o bryd, a bydd yn cyflogi doniau o brifysgolion lleol drwy gyfrwng ei gynllun recriwtio graddedigion.

Mae gan Turner & Townsend brofiad mewn gweithio gyda chleientiaid i ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol wrth ffynonellu nwyddau a llafur drwy’r prif gontractwr hefyd, ac mewn sicrhau fod y rhwymedigaethau hyn yn cael eu gweithredu a’u tystiolaethu.


Meddai’r Cyfarwyddwr Cyswllt yn Turner & Townsend, Chris Lewis: “Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio ar y prosiect anhygoel hwn sydd ar garreg fy nrws. A minnau wedi byw yn yr ardal gydol fy mywyd, mae’n wchi gallu bod yn rhan o gyfleuster antur ac adloniant o safon ryngwladol o’r maint a’r rhychwant hwn, a fydd yn dod â buddsoddiad, cyfleoedd a swyddi newydd i’r gymuned leol. Dwi’n edrych ymlaen at fynd â’r teulu i’r gyrchfan, a phrofi cyffro’r gweithgareddau!”


Am Gyrchfannau Wildfox

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.


Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.


Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.


P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.



About Turner & Townsend

Mae Turner & Townsend yn gwmni gwasanaethau proffesiynol byd-eang sy’n arbenigo mewn rheoli rhaglenni, rheolaeth gostau a masnachol, a chynghori ar draws y sectorau eiddo tir, isadeiledd ac adnoddau naturiol.


Mae gennym 112 swyddfa mewn 46 gwlad, a gallwn dynnu ar ein profiad byd-eang ar draws y diwydiant i reoli risg, ac ar yr un pryd wneud y gorau o werth a pherfformiad yn ystod y gwaith o adeiladu a gweithredu asedau ein cleientiaid. www.turnerandtownsend.com

bottom of page