Mae Cyrchfannau Wildfox wedi penodi Venture Xtreme i dîm cyflenwi cyrchfan Cwm Afan. Venture Xtreme sy’n gyfrifol am y gymysgedd o chwaraeon antur a chynllunio gweithgareddau, gyda’r nod o wneud Cyrchfannau Wildfox yn gyrchfan antur fwyaf cyffrous, hygyrch a chynhwysol y DU.
Bydd y tîm yn gweithio o swyddfeydd lluosog gan gynnwys gogledd Cymru, ac fe’u harweinir gan y Prif Swyddog Gweithredol Andy Macnae. Cefnogir Andy gan ei gyd-gyfarwyddwr a’r prif ymgynghorydd Steve Jones, a’r uwch-ymgynghorwyr Rory Holburn a Phil Nelson.
Mae gan y tîm yn Venture Xtreme brofiad ymarferol helaeth iawn o chwaraeo antur, gyda sawl un o’r gweithwyr yn gyfranogwyr ar lefel ‘elite’, sydd wedi symud i swyddi arwain ym maes cynllunio, adeiladu a gweithredu cyfleusterau chwaraeon antur. Mae Andy hefyd yn ymddiriedolwr Cycling UK.
Y cyfuniad unigryw hwn o brofiad ymarferol sydd wedi peri fod Venture Xtreme yn arwain y byd o ran datblygu cyrchfannau chwaraeon antur, gyda rhestr ryngwladol o gleientiaid, a record glodwiw o ddarparu prosiectau ledled y byd gan gynnwys gyda NEOM a Qiddiya yn Saudi.
"Mae pawb o’r tîm yn Venture Xtreme wedi cyffroi i fod yn gweithio ar brosiect mor arloesol. Antur yw’r sector sy’n tyfu fwyaf yn y farchnad dwristiaeth, a gall Cyrchfannau Wildfox fod yn borth i ffordd o fyw ym maes antur i lawer iawn o bobl na fydden nhw fel arall yn cael y cyfle” Andy Macnae, Prif Weithredwr Venture Xtreme |
About Gyrchfannau Wildfox
Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.
Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.
Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.
P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.
About Venture Xtreme
Mae Venture Xtreme yn arwain y byd ym meysydd dichonolrwydd, dylunio, busnes a gweithredu cyrchfannau Antur a Chwaraeon Eithafol. Mae uchelgais Venture Xtreme yn syml – darparu cyrchfannau Chwaraeon Antur gorau’r byd. Bydd VX yn gweithio’n uniongyrchol gyda phartneriaid datblygu i ddod â chysyniadau’n fyw, ac i gynghori partneriaid o’r sector cyhoeddus a phreifat ar bob agwedd o ddatblygu chwaraeon antur. Daw VX â phrofiad digymar o chwaraeon antur, a gefnogir gan offer cynllunio a modelu a berffeithiwyd dros 20 mlynedd a dwsinau o brosiectau mawr.
Comments