Cyrchfan Wildfox yn ategu ymrwymiad i gyflawni yng Nghwm Afan
- rstevens383
- Jun 24
- 2 min read

Mae Cyrchfan Wildfox yn falch o ategu ymrwymiad diysgog i gyflawni Cyrchfan Wildfox y bu mawr ddisgwyl amdano, yng Nghwm Afan. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae ein tîm wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mireinio ein gweledigaeth a chynllunio cynllun a yrrir gan y farchnad, sy’n fasnachol ddichonadwy, a fydd yn llunio cyfleoedd i’r dyfodol ar gyfer ffyniant economaidd a chreu swyddi yng Nghwm Afan ac ar draws de Cymru.
Mae ein taith wedi cynnwys cynllunio gofalus, fel y gwaith cynllunio manwl a gorffen materion a neilltuwyd, camau hanfodol cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Rydyn ni hefyd wedi blaenoriaethu diogelu amgylcheddol er mwyn sicrhau fod y cyrchfan yn sensitif i’w amgylchiadau naturiol.
Mae ein deialog barhaus gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn allweddol ar gyfer cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus. Mae Cyrchfannau Wildfox yn ddatblygiad uchelgeisiol a chyffrous sy’n anelu at drawsnewid yr economi leol a rhanbarthol sy’n amgylchynu’r lleoliad. Pan fydd y gyrchfan ar waith, y gobaith yw y bydd yn destun balchder i weithwyr, preswylwyr lleol a’r holl randdeiliaid sydd â rhan i’w chwarae ynddi.
Byddwn ni’n parhau i rannu diweddariadau wrth i ni gyflawni cerrig milltir pellach.
Yn ôl Benjamin Lloyd, Cyfarwyddwr Strategaeth Fasnachol Cyrchfannau Wildfox: “Rydyn ni’n cydnabod yr hanes cymhleth a’r heriau a gysylltir â’r safle. Mae ein hymrwymiad yn dal i fod, fel bob amser, i godi uwchlaw’r heriau hynny er mwyn darparu cyrchfan sy’n unol â’n gweledigaeth, a fydd yn denu cynulleidfaoedd ymrwymedig, a’u cadw i ddychwelyd dro ar ôl tro i’r ardal erwin a hardd hon o dde Cymru.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt: “Rydyn ni’n croesawu’n gryf y cyhoeddiad hwn, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyrchfannau Wildfox i ddarparu’r hyn sy’n uchelgais gwirioneddol drawsnewidiol a fydd yn dod â manteision enfawr yn ei sgil i’r economi leol a rhanbarthol.”