top of page

Cyrchfan Wildfox Cwm Afan gam yn nes ar ôl derbyn caniatâd am Faterion a Gadwyd yn Ôl


Cyrchfan Wildfox Cwm Afan gam yn nes ar ôl derbyn caniatâd am Faterion a Gadwyd yn Ôl

Mae Cymoedd De Cymru gam yn nes at fod yn lleoliad Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan ar ôl i ganiatâd gael ei roi ar gyfer dau gais cynllunio – y Materion a Gadwyd yn Ôl a’r rhyddhad amodol.


Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ganiatâd i’r Materion a Gadwyd yn Ôl ddydd Mawrth 8 Tachwedd 2022 mewn cyfarfod o’r pwyllgor cynllunio. Cafwyd caniatâd i becyn o amodau ar 1 Tachwedd 2022. Mae’r ceisiadau am Faterion a Gadwyd yn Ôl a’r rhyddhad amodol yn dod yn sgil cyhoeddi caniatâd cynllunio amlinellol ddydd Mawrth Ionawr 18 2022.


Yn ôl Martin Bellamy, y Prif Weithredwr, “Mae’r ddau ganiatâd hwn yn nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r prosiect, ac maen nhw’n dangos ein hymrwymiad i gyflawni’r gwaith. Rwyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ar genhedlaeth newydd o gyrchfannau antur, a anwyd ac a leolir yng Nghymru.”


Bydd datblygu safle Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn adfer y dirwedd ac yn adfywio’r economi ynghanol Cymoedd y De. Bydd yn sefydlu Cwm Afan fel cyrchfan hanfodol i anturiaethwyr a phobl sy’n ceisio iechyd a lles, yn ogystal â darparu cyfleoedd hirdymor i bobl leol allu byw, gweithio a chwarae yn eu cymuned a’r ardal ehangach.


Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Stephen Hunt:“Dyma brosiect trawsnewidiol ar gyfer Cwm Afan a’r rhanbarth hwn ar ei hyd, am y bydd yn darparu nifer fawr o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a phan fydd wedi gorffen, bydd gan bobl leol lawer o swyddi’n agored iddyn nhw.

“Mae’n addo troi Cwm Afan yn lle ‘rhaid-mynd-iddo’ i dwristiaid antur, a bydd hefyd yn cynnig sba a lle i enaid gael llonydd, gyda llawer o fanteision i Gastell-nedd Port Talbot yn ei sgil.


Meddai Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu Economaidd gyda Chyrchfannau Wildfox: “O’r dechrau’n deg, rydym wedi ymrwymo i weithio law yn llaw gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i yrru adfywiad lleol yng Nghwm Afan, gan greu cyfleoedd newydd i unigolion a theuluoedd.

“Mae’r tîm cyfan yng Nghyrchfannau Wildfox bellach yn paratoi ar gyfer cam nesaf datblygu’r prosiect, a byddwn yn parhau i roi pobl a phlaned gyntaf drwy ymgysylltu’n rhagweithiol â busnesau a chymunedau lleol, a darpar sefydliadau partner, i adfer ac adfywio’r ardal.”


Dros fisoedd y gaeaf pan fydd amodau ar y safle’n heriol, bydd y tîm cyflenwi’n parhau i fireinio cynllun y gyrchfan a chwblhau’r rhaglen gaffael ac adeiladu, cyn dechrau paratoi’r safle yn ystod gwanwyn 2023.

Oherwydd natur y prosiect, bydd y gwaith adeiladu’n digwydd gam wrth gam dros gyfnod o sawl blwyddyn. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni weithio gydag ysgolion a cholegau lleol, a phartneriaid ehangach ar strategaeth ddatblygu gweithlu sy’n ceisio gwneud y gorau o’r defnydd o lafur lleol.


I gael mwy o wybodaeth, gallwch ddarllen crynodeb o’r cais Materion a Gedwir yn Ôl sy’n amlinellu mwy o gyd-destun yn ogystal â’r amodau y ceisiodd Cyrchfannau Wildfox gael cymeradwyaeth ar eu cyfer.


Kommentare


bottom of page