A hwythau’n fuddsoddwyr profiadol sydd wedi hen ennill eu plwyf, mae Grŵp Salamanca wedi ymrwymo i ddarparu prosiect cyrchfan hamdden Cwm Afan i greu prosiect adfywio trawsnewidiol yng Nghastell-nedd Port Talbot, De Cymru.
Cadarnhaodd Martin Bellamy, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Grŵp Salamanca: “Rydyn ni wrthi’n creu tîm newydd sy’n meddu ar yr arbenigedd, y cyllid a’r gallu i ddarparu Cyrchfan Wildfox er mwyn cyflawni manteisio cymdeithasol ac amgylcheddol catarrhal i gymunedau lleol. Rydyn ni’n gwerthfawrogi cymhlethdodau’r prosiect hwn, rhwystredigaethau a siomedigaethau’r gorffennol, ac rydyn ni’n deall beth sydd ei angen i droi’r cyfan o gwmpas.”
Aeth Ben Lloyd, o Grŵp Pure Advisory ymhellach: “Fel partner yn nhîm newydd Wildfox, gallaf gadarnhau ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau’r cyllid oedd angen i symud y prosiect yn ei flaen, ac rydyn ni’n teimlo cyffro wrth feddwl am ddod â’r gyrchfan yn ei blaen.”
Ychwanegodd Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu Economaidd: “Edrychwn ymlaen at weithio’n gydweithredol gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, rhanddeiliaid a’r gymuned, i ennill momentwm a chynhyrchu gweithredoedd diriaethol er mwyn cyflawni cynnydd go iawn. Byddwn ni’n creu tîm datblygu newydd, sy’n cael ei yrru gan raglen ddarparu newydd er mwyn adfywio’r wybodaeth gynllunio, a dechrau ar waith paratoadol ar y safle.”
Yn ôl Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r ymgeisydd a’i asiantwyr er cryn amser i sicrhau fod gwybodaeth ddigonol yn cael ei chyflwyno i alluogi Pwyllgor Cynllunio’r cyngor i asesu’r datblygiad arfaethedig yn drwyadl pan gaiff ei adrodd ar gyfer gwneud penderfyniad. Fel rhan o’r broses hon, mae swyddogion wedi bod yn rhoi cyngor ac arweiniad i sicrhau fod y manteision a gysylltir â’r datblygiad arfaethedig yn cael eu mwyhau i’r eithaf, a bod unrhyw ddarpar effeithiau’n cael eu lleihau.”
Cadarnhaodd Peter Moore OBE: “Rwyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda’r tîm newydd i ddod â’r prosiect hwn yn ei flaen ac rwy’n dal i deimlo’n angerddol am botensial y gyrchfan.”
Comments