top of page

Arweinydd Cyngor yn croesawu cwblhau cam diweddaraf y gwaith mewn datblygiad twristiaeth o bwys


Chwith i dde: Claire Pearce, Cyng Huw David, Cyng Steve Hunt.

Mae Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt, wedi croesawu cwblhau cam diweddaraf y gwaith paratoi ar safle Cyrchfan Wildfox, yr atyniad gwerth miliynau o bunnoedd sydd ar y gweill ym Mlaenau Cwm Afan, Port Talbot.


Ymwelodd y Cyng Hunt â safle’r prosiect twristiaeth trawsnewidiol, sydd ar y gweill i gael ei gwblhau erbyn 2027, ddydd Mercher 9 Awst 2023, ble cafodd gwmni gwleidyddion lleol a phobl o’r ardaloedd cyfagos gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.



Wrth siarad yn ystod yr ymweliad, dywedodd Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu Economaidd gyda Chyrchfannau Wildfox: “Ar ôl cyfnod maith o waith dros sawl blwyddyn, rydym eisoes wedi buddsoddi £20m mewn gweithgarwch ar y safle ac oddi arno. Nawr, mae ein gwaith paratoi wedi dod i ben ar gyfer 2023 a bydd yn ailddechrau yn y gwanwyn 2024. Bydd gweithgarwch parhaus ar y safle o’r adeg honno ymlaen, hyd nes i’r gyrchfan agor.


“Bydd ail-amserlennu rhyw gymaint o’r gweithgarwch ar y safle’n sicrhau fod y gyrchfan yn cael ei chwblhau’n effeithiol, ac ar yr un pryd bod manteision i’r gymuned yn cael eu mwhyau i’r eithaf. Ein nod yw troi’r prosiect cymhleth hwn yn ffaith, a pheri i bethau ddigwydd. Dros y misoedd nesaf hyn, byddwn ni’n canolbwyntio ein hymdrechion ar ddatblygu’r gweithlu, ar dreftadaeth ac ar ymestyn ein mentrau gwerth cymdeithasol.


“Mae tîm Wildfox yn ddiolchgar o fod wedi derbyn croeso cynnes gan y gymuned, ac ymateb rhagorol gan gontractwyr, ysgolion a phreswylwyr lleol, sydd eisoes wedi elwa o gael cyfleoedd drwy gyfrwng y prosiect, ac a fydd yn parhau i fod ar eu hennill drwy gydol y cyfnod adeiladu a gweithredu.:


Ac yntau’n ymweld â’r safle, dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Hunt: “Pleser o’r mwyaf yw cael bod ar safle’r datblygiad eithriadol bwysig hwn, ac rwy’n falch hefyd o groesawu gwleidyddion o ardaloedd cyfagos a fydd hefyd yn elwa, wrth gwrs, o Wildfox, ac edrychwn ymlaen at gydweithio i gefnogi’r datblygwyr i droi’r prosiect dychmygus hwn yn ffaith.”


Wrth i dîm Wildfox edrych ymlaen at y cam nesaf o’r gwaith, sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth, byddan nhw’n galw ar breswylwyr, grwpiau hanes lleol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhannu’u hatgofion o’r Cymoedd gyda’r tîm. Byddwn ni’n rhannu cyfleoedd i gyfranogi yn hyn o beth cyn gynted ag y gallwn.


Ymysg y rheiny a gymerodd ran yn yr ymweliad â safle Wildfox roedd Arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, y Cyng Huw David; AS Ogwr Huw Irranca-Davies; AS Aberafan David Rees; y Cyng Mark Norris, Aelod Cabinet dros Ddatblygu a Ffyniant (Cyngor Rhondda Cynon Taf); Peter M Moore OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Brightaspect Leisure; Claire Pearce, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd a Datblygu Economaidd Cyrchfannau Wildfox; Ben Lloyd, Cyfarwyddwr Strategaeth Grŵp Cyrchfannau Wildfox; Andrew Price, Cyfarwyddwr Datblygu Cyrchfannau Wildfox; Mark Dacey, Pennaeth Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot; Gemma Charnock, Dirprwy Bennaeth Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot.


Gallwch ddarllen datganiad i’r wasg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yma.


Cliciwch yma i ddarllen cylchlythyr diweddaraf Cyrchfan Wildfox.


Cliciwch yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Cyrchfannau Wildfox, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.


Am Cyrchfan Wildfox

Mewn lleoliad 318 erw o gwmpas Croeserw, mae Cyrchfan Wildfox Cwm Afan yn addo creu mil o swyddi adeiladu a mil pellach o swyddi gweithredu. Bydd yn gatalydd er mwyn ymestyn cyflogaeth a thwristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r ardaloedd cyfagos, gan flaenoriaethu iechyd a llesiant preswylwyr a’r gweithlu wrth wneud hynny.


Bydd y gyrchfan, a gafodd gymeradwyaeth ffurfiol Cyngor Castell-nedd Port Talbot ym mis Ionawr 2022, ar ôl arwyddo cytundebau cyfreithiol, yn cynnwys 130 ystafell westy, gan gynnwys fflatiau a 570 o lojys, gan gynnig dihangfa actif a llawn adrenalin i bobl o bob oedran sy’n dymuno cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau.

I’r rheiny sy’n ceisio profiad mwy ymlaciol, neu sydd eisiau cyfle i adfywio, bydd y gyrchfan yn cynnig sba gyda’r gorau a mwyaf cyfoes ar gael, a rhaglen lesiant gynhwysfawr a fydd yn cynnwys gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau achlysurol.




Comments


bottom of page