Penodi Alpine Land Surveyors gan Grŵp Cyrchfan Wildfox

Mae Grŵp Cyrchfannau Wildfox wedi penodi Alpine Land Surveyors Ltd fel rhan o dîm cyflenwi ehangach cyrchfan Cwm Afan. Cwm Afan yw’r cyntaf o dair cyrchfan antur newydd yn y DU.

Gan weithio o Aberdâr, bydd Alpine Land Surveyors yn gyfrifol am syrféo tir a chyfleustodau cyn i’r gwaith adeiladu ddigwydd, gan alluogi’r peirianwyr sifil, penseiri a thimau cynllunio i symud ymlaen â’u gwaith.

Mae Cyrchfannau Wildfox wedi ymrwymo i gefnogi economi leol gref a chynaliadwy drwy ddatblygu cyfleoedd cadwyn gyflenwi. Rydyn ni’n falch o groesawu Jonathan Price, Rheolwr Gyfarwyddwr, sydd wedi arwain y tîm ers 17 mlynedd, a Tim Coombs MSc, Cyfarwyddwr, i ymuno â’r tîm cynyddol.

Mae Alpine Land Surveyors, a leolir brin 20 milltir o’r safle arfaethedig, yn cyflogi 14 aelod o staff sy’n byw yn Ne Cymru. Cydweithiodd Alpine ar y syrféon cychwynnol gyda’r is-gontractwr Aerial Optics, sy’n darparu gwasanaethau UAV (drôn) ac sy’n cyflogi dau aelod lleol o’r tîm.

Yn ôl y Cyfarwyddwr yn Alpine Land Surveyors Ltd, Tim Coombs MSc: “Mae gweithio ar safle Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn eithriadol gyffrous i’r tîm, prin y daw’r cyfle i weithio ar brosiectau â’r proffil hwn mor agos at gartref. Rydyn ni’n ymfalchïo mewn cyfrannu at brosiect a allai gael y fath effaith ddyrchafol ar yr ardal a’r rhanbarth yn ehangach.

----

Am Gyrchfannau Wildfox

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.

Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.

Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.

P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.

Am Alpine Land Surveyors Ltd

Ymgynghorwyr Syrféo Tir sy’n arbenigo mewn Arolygon Topograffig, Arolygon Cyfleustodau Tanddaearol, Arolygon Draenio Teledu Cylch Cyfyng, Arolygon Adeiladau Mesuredig, Sganio Laser ac Amlinellu.