Arbenigwyr lletygarwch yn ymuno â thîm Cyrchfan Wildfox

Mae Grŵp Cyrchfan Wildfox yn cadarnhau penodi HotelMakers fel rhan o dîm cyflenwi ehangach cyrchfan Cwm Afan. Cwm Afan yw’r cyntaf o dair cyrchfan antur newydd yn y DU.

Chris Ward a James Hayward fydd yn gyfrifol am gynghori tîm gweithredol Wildfox, a chefnogi’r ymgynghorwyr arbenigol â mewnwelediad o ran lletygarwch wrth iddynt ddatblygu’r gyrchfan.

Mae Chris yn weithiwr proffesiynol profiadol iawn ac uchel ei barch yn y diwydiant lletygarwch, gyda record glodwiw o ddatblygu a darparu brandiau lletygarwch arobryn a llwyddiannus dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Dywedodd y Partner yn HotelMakers, James Haywood: “Mae HotelMakers wrth ein bodd o fod yn cynghori tîm Wildfox ar brosiect mor ddewr ac mor llawn gweledigaeth. Credwn yn gryf y gall busnesau lletygarwch a ystyriwyd yn dda ac a arweinir gan nod fod yn rym er gwell; gan fod o fantais i’r amgylchedd, darparu twf economaidd a chyflogaeth, yn un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous ac amrywiol.”

----

Am Gyrchfan Wildfox

Cyrchfan Cwm Afan fydd y cyntaf o’i bath yn y DU a dyma fydd y buddsoddiad unigol mwyaf mewn twristiaeth, adfywio ac adfer tirlun yng Nghymru, gan greu dros fil o swyddi adeiladu a gweithredu.

Bydd Cyrchfannau Wildfox Cwm Afan yn cynnig dihangfa sy’n llawn antur i bob oedran, i allu cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau gan gynnwys beicio mynydd, llwybrau cerdded a beicio, ceunanta, weirenni zip, dringo, bolwdro, pwll antur i’r teulu a phrofiadau trydan oddi ar yr heol, i enwi rhai. I bobl fydd eisiau seibiant mwy hamddenol neu dipyn o hoe ac adferiad haeddiannol, bydd y gyrchfan yn cynnig sba unigryw yn ogystal â detholiad o fwytai a bariau sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol.

Bydd modd i westeion ddewis rhwng ystod o lojys o safon uchel neu i aros yn y gwesty unigryw ac yn ein fflatiau Wildfox, a’r cyfan wedi’u lleoli yn y cwm deniadol, sy’n hawdd cyrraedd at rwydwaith y traffyrdd a’r rheilffyrdd ohono.

P’un ai os ydych chi’n gwpwl sydd eisiau dianc rhag llethdod beunyddiol, yn deulu sy’n chwilio am antur, neu’n grŵp o ffrindiau sydd eisiau creu atgofion, Cyrchfan Wildfox yw’r lle i chi.